Portal Sgiliau Gogledd Cymru
Mae'r platfform yn gweithredu fel 'porth i gyfleoedd yng Ngogledd Cymru' - gan rannu swyddi gwag byw, hyfforddiant, llwybrau gyrfa a chyfleoedd twf busnes i bobl a chyflogwyr yn y rhanbarth.
Uchelgais Gogledd Cymru
Rydym yn cydweithio i adnabod a chreu cyfleoedd fydd yn datblygu ein heconomi. Byddwn yn hyderus a chydlynol, yn canolbwyntio ar wella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Gogledd Cymru.
Amdanon ni
Sefydlwyd partneriaeth Bwrdd Uchelgais Economaidd nol yn 2012 i ddatblygu dull rhanbarthol ar gyfer twf economaidd ac i fynd i'r afael â'r heriau a'r rhwystrau sy'n wynebu economi Gogledd Cymru. Roedd y bartneriaeth yn cwmpasu'r chwe ardal awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yn cynnwys cynghorau Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Sir y Fflint. Roedd y bartneriaeth hefyd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Prifysgol Wrecsam, Coleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai.
Penodwyd Swyddfa Rheoli Portffolio yn 2019 i arwain ar gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Yn 2021 cymeradwywyd Uchelgais Gogledd Cymru fel y brand ar gyfer y Bwrdd Uchelgais a Chynllun Twf Gogledd Cymru.
Ym mis Ebrill 2024, daethom yn Gyd-bwyllgor Corfforaethol, gyda chyfrifoldebau newydd ar gyfer trafnidiaeth ranbarthol a chynllunio strategol yn ogystal â chyfrifoldeb i wella a hyrwyddo lles economaidd Gogledd Cymru. Mae'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn cynnwys y chwe awdurdod lleol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Cytunodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol i fabwysiadu brand Uchelgais Gogledd Cymru.
Ar 1 Ebrill 2025 trosglwyddwyd y Swyddfa Rheoli Portffolio a Cynllun Twf Gogledd Cymru i Gyd-bwyllgor Corfforaethol Gogledd Cymru, a elwir bellach yn Uchelgais Gogledd Cymru: