Ynglŷn â’r cynllun

Ar gael i weithredwyr Rhwydweithiau Symudol, Gwesteiwyr Niwtral a darparwyr seilwaith.

Mae cyllid ar gael ar gyfer defnyddio ac uwchraddio seilwaith symudol 4G/5G ar draws Gogledd Cymru.

Gellir hawlio hyd at uchafswm o 65% o’r cyllid cyfalaf fel cyllid grant – mae angen cyllid cyfatebol ar gyfer o leiaf 35% o swm y grant.

Meini Prawf Cymhwysedd

Rhaid i brosiectau ddarparu seilwaith 4G neu 5G newydd neu wedi’i uwchraddio mewn lleoliadau sydd heb wasanaeth digonol ledled Gogledd Cymru, yn enwedig mewn Ardaloedd Heb Wasanaeth (“Not Spots”) ac Ardaloedd Heb Wasanaeth Rhannol (“Partial Not Spots”).

Rhaid i bob prosiect fod wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnwys siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Dim ond i alluogi prosiectau newydd na ellir eu cyflawni heb gymhorthdal y gellir defnyddio’r cyllid. Dolen i’r meini prawf cymhwysedd llawn.

Amserlenni

Gellir cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb yn ystod cyfnodau cyllido penodol

Gweithgaredd

Dyddiadau
Dyddiad cau Datganiad o Ddiddordeb (EOI) cyntaf 14 Awst 2026
Hysbysiad canlyniad y Datganiad o Ddiddordeb Wythnos yn dechrau 21 Medi 2026
Cais am wybodaeth ychwanegol 6 Hydref 2026
Ceisiadau'n agor (Find a Grant) Wythnos yn dechrau 5 Hydref 2026
Dyddiad cau'r cais cyntaf 3 Tachwedd 2026
Asesiad a Chyfarfod Panel Wythnos yn dechrau 30 Tachwedd 2026
Penderfyniad ariannu Wythnos yn dechrau 14 Rhagfyr 2026
Cytundebau Ariannu Grant cyntaf wedi'u llofnodi O fewn 4-8 wythnos o benderfyniad y cais
Prosiectau'n cychwyn; cyfnod cyllido'r grant yn dechrau O'r 14 Rhagfyr 2026
Dyddiad cau gweithredu 31 Ionawr 2030
Diwedd cyfnod y prosiect; gwireddu buddion wedi'i gwblhau 31 Mawrth 2036

Mae'r cynllun ar gau ar hyn o bryd i EOIs newydd. Bydd y ffenestr nesaf yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Grant Diwydiant, y prosiect 4G+, neu gyfleoedd i gydweithio, cysylltwch â ni ar: digidol@uchelgaisgogledd.cymru