Rydym wedi ymroi i'r nod o greu Gogledd Cymru sy’n fwy teg a chyfartal, ac yn rhywle lle gall pawb ffynnu.

Yn Uchelgais Gogledd Cymru, rydym yn cydnabod y rôl bwysig sydd gennym i hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau bod y budd fydd yn deillio o’n gwaith yn hygyrch i bawb.

Drwy ein cyfrifoldebau dros gynllunio trafnidiaeth, cynllunio datblygu strategol a llesiant economaidd, gallwn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella bywydau pobl ledled Gogledd Cymru.

Datblygu ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol

Fel sefydliad cymharol newydd, a sefydlwyd yn ffurfiol fel corff corfforaethol yn 2025, ein blaenoriaeth gychwynnol oedd rhoi’r sylfeini angenrheidiol yn eu lle er mwyn gweithredu’n effeithiol. Rydym bellach yn datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol ystyrlon ac uchelgeisiol, a fydd yn amlinellu ein hamcanion cydraddoldeb a’r camau y byddwn yn eu cymryd dros y bedair blynedd nesaf.

Pam bod angen Cynllun Cydraddoldeb Strategol arnom?

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd yn ddarostyngedig i Ddeddf Gydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Gyhoeddus.

Golyga hyn bod rhaid rhoi sylw dyledus i'r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf;
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath;
  • meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl sydd heb nodwedd o'r fath.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag gwahaniaethu ar sail y nodweddion gwarchodedig canlynol:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn amlinellu sut y bwriadwn gyflawni’r dyletswyddau. Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol a fydd yn adrodd am y cynnydd a fydd wedi ei wneud, ac yn unol â’r dyletswyddau penodol yng Nghymru sy’n berthnasol i gyrff cyhoeddus.

 

 

Dweud eich dweud

Hoffem glywed wrthych chi. Bydd eich barn yn ein helpu i ddysgu am y rhwystrau sy’n wynebu pobl a hefyd i ddeall pa gamau gallwn eu cymryd i gyfrannu at ddyfodol mwy cynhwysol a theg.  

Croesawn ymatebion gan unigolion, grwpiau cymunedol, mudiadau a chynrychiolwyr buddiannau pobl â nodweddion gwarchodedig.

Mae dwy ffordd o ymateb:

  1. Os gwelwch yn dda, llenwch y ffurflen isod (ffurflen ddi-enw) a gadewch i ni wybod beth ddylem ei gynnwys yn ein cynllun Cydraddoldeb. Dilynwch y ddolen.
  2. Cysylltwch â Menna Machreth, Uwch Swyddog Polisi Corfforaethol, gydag unrhyw gwestiynau neu i drafod eich syniadau: adborth@uchelgaisgogledd.cymru