Ynglŷn â'r cynllun
Mae cyllid ar gael i uwchraddio / ailosod asedau presennol sy’n eiddo i’r sector cyhoeddus er mwyn cefnogi seilwaith 4G/5G newydd.
Gellir hawlio hyd at 100% o’r cyllid cyfalaf fel cyllid grant (nid oes angen cyllid cyfatebol).
Rhaid i’r lleoliadau a gyflwynir yn ystod cam y Datganiad o Ddiddordeb (EOI) gyd-fynd â blaenoriaethau strategol y Prosiect.
Meini Prawf Cymhwysedd
Rhaid i'r sefydliad fod yn sefydliad sector cyhoeddus.
Rhaid i’r sefydliad fod yn berchen ar, yn gweithredu neu’n rheoli asedau cymwys yng Ngogledd Cymru (Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam neu Ynys Môn).
Rhaid i’r sefydliad fod â Chytundebau Mynediad Agored (OAA) wedi’u llofnodi yn eu lle, neu allu dangos yn glir gynnydd tuag at ddatblygu a llofnodi Cytundebau Mynediad Agored.
Gellir gweld y meini prawf cymhwysedd llawn yn y ddogfen ganllawiau isod.
Amserlenni
Gellir cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb unrhyw bryd ar sail dreigl tan gwblhau’r prosiect ym mis Ionawr 2030.
Sut i wneud cais
Mae’r broses yn dechrau drwy gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb (EOI) drwy wefan ‘Find a Grant’. Mae’r cais EOI yn cynnwys y meini prawf cymhwysedd llawn, a dylai ymgeiswyr eu hadolygu’n ofalus cyn gwneud cais. Rhaid cyflwyno ceisiadau ar-lein drwy borth ‘Find a Grant’.
Canllawiau a Dogfennau Ategol Cynllun Grant Gwella Asedau'r Sector Cyhoeddus 4G+
-
Canllawiau Cynllun Grant Gwella Asedau Sector Cyhoeddus 4G+ 14.5KB | Canllawiau Cynllun Grant Gwella Asedau Sector Cyhoeddus 4G+ -
Templed Cynnlun Cyflwyno Cynllun Gwella Asedau'r Sector Cyhoeddus 4G+ 502.7KB | Templed Cynnlun Cyflwyno Cynllun Gwella Asedau'r Sector Cyhoeddus 4G+ -
Datganiad Preifatrwydd 428.1KB | Datganiad Preifatrwydd -
Infograffig Cynlluniau Grant 4G+ 50.3KB | Infograffig Cynlluniau Grant 4G+
Cysylltwch â Ni
Am ragor o wybodaeth am y Gynllun Grant Gwella Asedau’r Sector Cyhoeddus, prosiect 4G+, neu gyfleoedd i gydweithio, cysylltwch â ni yn: digidol@uchelgaisgogledd.cymru