Mae Prosiect 4G+ yn cefnogi partneriaid y sector cyhoeddus i weithredu Cytundebau Mynediad Agored (CMA) gyda gweithredwyr gwesteiwr niwtral, gan alluogi dull cydgysylltiedig o gyflwyno seilwaith 4G a 5G a gwella cysylltedd symudol ar draws Gogledd Cymru.
Cwestiynau Cyffredin Cytundebau Mynediad Agored
Mae Cytundeb Mynediad Agored yn drefniant syml a ffurfiol sy’n caniatau i weithredwyr telathrebu ddefnyddio asedau’r sector cyhoeddus i osod seilwaith symudol fel celloedd bach 4G a 5G. Mae’n darparu fframwaith clir a chyson sy’n cefnogi datblygu seilwaith yn gyflymach ac yn annog buddsoddiad mewn cysylltedd digidol gwell.
Mae celloedd bach yn unedau symudol cryno sy’n rhoi hwb i orchudd 4G a 5G mewn ardaloedd penodol. Fel arfer, maent yn gwasanaethu ardal hyd at tua 200 metr o radiws, ac fe’u defnyddir i wella perfformiad mewn llefydd prysur fel canol trefi, canolfannau trafnidiaeth, ac ardaloedd lle mae’r signal ar lefel y stryd yn wael. Maent bellach yn ddull ffafriol o gryfhau cysylltedd symudol lleol.
Mae Gweithredwr Gwesteiwr Niwtral yn gwmni sy’n gosod ac yn rheoli seilwaith symudol a rennir, y gall unrhyw rwydwaith symudol ei ddefnyddio. Yn lle i bob rhwydwaith godi ei offer ei hun, mae un system a rennir yn eu cefnogi i gyd, gan helpu i wella’r gorchudd yn gyflymach a gyda llai o aflonyddwch.
Mae llofnodi cytundebau mynediad agored yn helpu i ddarparu cysylltedd symudol dibynadwy, gan gefnogi gwasanaethau digidol o safon uchel i drigolion a busnesau. Maent yn galluogi cyflwyno effeithiol sy’n niwtral o ran costau, drwy ddefnyddio asedau cyhoeddus presennol, lleihau faint o offer ar y strydoedd, a chryfhau gweithio ar y cyd â gweithredwyr rhwydweithiau symudol.
Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ddinbych wedi datblygu Cytundeb Mynediad Agored safonol y gellir ei rannu gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus ar draws y rhanbarth. Mae’r cytundeb yn darparu proses glir, dryloyw a chyson, gyda set benodol o delerau ac amodau i gefnogi cyflwyno seilwaith symudol.
Bydd angen i bob sefydliad fynd ati i gael ei gyngor cyfreithiol ei hun; fodd bynnag, mae defnyddio’r templed a rennir yn helpu i symleiddio’r broses ac yn rhoi hyder i weithredwyr ynghylch sut y caiff safleoedd eu rheoli. Os ydych yn sefydliad yn y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru ac yr hoffech dderbyn copi o’r Cytundeb Safonol, cysylltwch â ni.
Newyddion
Cysylltwch â Ni
Am ragor o wybodaeth am Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, y prosiect 4G+, neu gyfleoedd i gydweithio, cysylltwch â ni yn:
digidol@uchelgaisgogledd.cymru