Am y Fforwm

Lansiwyd Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2025, gan nodi carreg filltir bwysig yn yr ymdrechion i wella cysylltedd a chefnogi trawsnewid digidol y rhanbarth. Ei nod yw gwneud Gogledd Cymru yn ardal fwy deniadol ar gyfer buddsoddiad digidol.

Mae’r Fforwm yn dod â Awdurdodau Lleol, Parc Cenedlaethol Eryri, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y gwasanaethau brys, gweithredwyr trafnidiaeth, a’r diwydiant telathrebu ynghyd, gan gynnwys Gweithredwyr Rhwydweithiau Symudol, Gweithredwyr Gwesteiwr Niwtral, a Chwmnïau Tŵr, i helpu i lunio dyfodol seilwaith symudol a band eang ar draws Gogledd Cymru. Mae’n ceisio dileu rhwystrau i fuddsoddi, symleiddio prosesau cynllunio, a hwyluso ymgysylltu â’r diwydiant, gan wneud y mwyaf o effaith cyllid y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

Cadeirir Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru gan Alwen Williams, Prif Weithredwr Uchelgais Gogledd Cymru, ac mae’n cael ei gynnal yn chwarterol.

Amcanion y Fforwm

Fforwm Rhanbarthol

Sefydlu a chynnal Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru i gydlynu gweithgaredd.

Cydweithio Traws Sectorol

Cryfhau cydweithio rhwng y diwydiant telathrebu a sefydliadau y sector cyhoeddus

Cysylltedd Rhanbarthol

Adeiladu dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion a chynlluniau cysylltedd digidol ar draws y Rhanbarth

Rhannu Gwybodaeth

Gwella tryloywder a rhannu gwybodaeth rhwng rhanddeiliaid

Cyflymu Datblygu Seilwaith

Lleihau rhwystrau a chyflymu’r broses o ddatblygu seilwaith

Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau canlynol yn ffurfio Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru:

Cysylltwch â Ni

Am ragor o wybodaeth am Fforwm Cysylltedd Digidol Gogledd Cymru, y prosiect 4G+, neu gyfleoedd i gydweithio, cysylltwch â ni yn:
digidol@uchelgaisgogledd.cymru