Mae Cynllun Datblygu Strategol yn cydnabod nad yw cynllunio ar gyfer ardal weinyddol awdurdod cynllunio lleol unigol o reidrwydd yn adlewyrchu sut mae pobl yn byw eu bywydau, sut mae marchnadoedd yn gweithredu na sut mae busnes yn gweithredu. 

Mae Cynllun Datblygu Strategol yn cynnig y gallu i sicrhau bod ardal ddaearyddol ehangach yn cael ei hystyried mewn un cynllun. Mae’n hwyluso creu gweledigaeth gydlynol, hirdymor sy’n mynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd unigryw ein cymunedau. 

Nod y cynllun yw meithrin twf economaidd cynaliadwy, gwella seilwaith, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol trigolion. Trwy gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid, bydd y CDS yn sicrhau bod datblygiad yn gytbwys ac yn gynhwysol, gan adlewyrchu dyheadau ein poblogaeth amrywiol. Mae’n mabwysiadu man canol rhwng y Cynllun Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a bydd yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer paratoi CDLlau dilynol.  

Ymhellach, mae’r CDS yn ymateb i’r dyletswyddau statudol a osodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cydbwyllgorau Corfforaethol, gan sicrhau bod ein cynllunio rhanbarthol yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a gofynion deddfwriaethol. Bydd y dull strategol hwn yn galluogi Gogledd Cymru i ffynnu, gan sicrhau dyfodol llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol.