Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, yn 2021, Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol ar gyfer pob un o bedwar rhanbarth Cymru.

Mae'r dogfennau'n gweithredu fel cyfrwng i helpu i hyrwyddo cynllunio a darparu cydweithredol ymhlith partneriaid y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, gan weithio i weledigaeth a rennir a chyfres o amcanion datblygu economaidd cyffredin. 

Mae Fframwaith Economaidd Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi'i lywio gan ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid ac mae wedi'i gymeradwyo'n llawn i'w gyhoeddi gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd.