Trosolwg
Yn yr hinsawdd ddigidol sydd ohoni, lle mae datblygiadau yn digwydd yn eithriadol o gyflym, mae gofyn i fusnesau arloesi ac addasu er mwyn aros yn gystadleuol.
Gall llywio technoleg fodern fod yn gymhleth ond mae’n hanfodol i fusnesau bach a chanolig (BBaCh) aros ar flaen y gad. Mae croesawu datrysiadau digidol uwch yn agor cyfleoedd busnes a thwf newydd, gan sicrhau mynediad di-dor at wybodaeth, llifoedd gwaith effeithlon, a systemau diogelwch.
I gefnogi busnesau yn yr ardal, mae Uchelgais Gogledd Cymru yn lansio rhaglen gymorth a ariennir yn llawn gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Mae’r prosiect Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig (SME) yn darparu’r arweiniad sydd ei angen ar fusnesau i integreiddio technolegau diwifr uwch - fel 5G, LoRaWAN, a rhwydweithiau WiFi - ynghyd â datrysiadau trawsnewidiol fel Deallusrwydd Artiffisial. Drwy wneud y defnydd gorau o’r technolegau hyn gall busnesau wella perfformiad, cynyddu cynhyrchiant, optimeiddio effeithlonrwydd, ac ennill mantais gystadleuol.
Amcanion
Darparu BBaCh gyda mynediad i dechnolegau diwifr uwch er mwyn goresgyn heriau cysylltedd a gwella effeithlonrwydd gweithredol.
Gwella cyflymder rhyngrwyd a chysylltedd dibynadwy, hwyluso mynediad di-dor i gymwysiadau system gwmwl a chydweithio amser real.
Cefnogi busnesau i symleiddio gweithrediadau drwy awtomeiddio, monitro o bell, ac integreiddio dyfeisiau clyfar, sy’n arwain at lai o amser segur ac arbedion cost.
Helpu busnesau i wneud y defnydd gorau o dechnolegau uwch fel deallusrwydd artiffisial i ddarparu profiadau gwell i gwsmeriaid, gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ddata, ac addasu’n gyflym i newidiadau yn y farchnad.
Ysgogi arloesedd a datblygiad economaidd yng Ngogledd Cymru drwy rymuso BBaCh gyda’r offer ac adnoddau sydd eu hangen i ffynnu yn yr oes ddigidol.
Datganiad o ddiddordeb
Ymunwch â’r busnesau blaengar yng Ngogledd Cymru i ddatgloi potensial llawn technolegau uwch. Cyflwynwch eich datganiad o ddiddordeb i ddechrau eich taith tuag at drawsnewid digidol.*
*Mae’r prosiect Asesiadau Cysylltedd Busnesau Bach a Chanolig (SME) wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ac mae’n cael ei ddarparu yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, ac Ynys Môn ar ran Uchelgais Gogledd Cymru gan BIC Innovation Cyf mewn partneriaeth ag Intelligens Consulting. Am wybodaeth bellach cysylltwch â BIC Innovation info@bic-innovation.com
Mae nifer cyfyngedig o gyfleoedd ar gael a disgwylir ymateb cryf. Bydd y prosiect yn rhedeg dros gyfnod byr gyda dyddiad cau yn gynnar yn yr hydref 2024.
Os gwelwch yn dda, nodwch mai cyfyngedig yw argaeledd y rhaglen hon, a bydd ceisiadau’n cael eu hasesu’n ofalus i sicrhau addasrwydd. Nod y cynllun yw curadu grŵp dethol o gyfranogwyr, yn uchafu effaith pob ymgynghoriad. Bydd y mewnwelediadau o’r ymgynghoriadau cychwynnol yn cael eu defnyddio i gyfrannu at adroddiad lefel uchel gydag argymhellion ar gyfer ymyriadau tebyg yn y dyfodol er budd busnesau Gogledd Cymru.