Dod o hyd i atebion amgen i gysylltiad rhyngrwyd gwael yng Ngogledd Cymru

Cysylltu a Chyllid

Rhyngrwyd cebl

Darperir rhyngrwyd cebl ar wifrau copr (fel gwifrau ffôn) neu geblau ffeibr optig.

Mae’r math o gebl yn gallu cael effaith fawr ar gyflymder y gwasanaeth. Dyma’r prif gysylltiadau rhyngrwyd cebl:

ADSL (Asymmetric Digital Subscriber Line)
Asymmetric Digital Subscriber Line (ADSL) yn fand eang sy’n darparu cysylltiad rhyngrwyd ar yr un llinell â ffôn cartref. Dyma’r cysylltiad mwyaf cyffredin a sylfaenol.

Cyflymder uchaf ADSL yw 8Mbps a 24Mbps yn achos ADSL2+. Fodd bynnag, bydd cyflymder ADSL yn gostwng wrth fynd ymhellach o’r gyfnewidfa.

FTTC (ffeibr i’r cabinet)
FTTC yn defnyddio gwifrau copr o’r cabinet stryd i’ch cartref, ond yn cysylltu â’r gyfnewidfa ar gebl ffeibr optig.

Mae hynny’n cynyddu’r cyflymder i hyd at 80Mbps os bydd y cartref yn agos at y cabinet stryd.

FTTP (ffeibr i’r adeilad)
FTTP yw’r cysylltiad cyflymaf wrth ddefnyddio ceblau ffeibr optig o’r gyfnewidfa i’r cartref.

Cyflymder uchaf yw 1000Mbps - oddeutu 30 gwaith yn gyflymach na ffeibr safonol.

4G

4G fel trên uwchgyflym ym maes cysylltedd rhyngrwyd symudol.

4G fel teithio ar lôn lydan sy’n caniatáu mwy o geir i deithio ar yr un pryd, gan ostwng lefelau traffig.

Bydd yn bwysig cymharu prisiau 4G er mwyn cael yr opsiwn gorau o ran anghenion a chyllideb eich cymuned. 

EE, Three, Vodafone ac O2

Yn y Deyrnas Unedig, mae pedwar prif ddarparwr 4G yn cefnogi sawl cwmni gwasanaeth yn cynnwys Giffgaff, Libara, Tesco Mobile etc

Manteision

  • Cyflymder rhwydweithiau 4G yn gyflymach na 3G, yn cynnig cyflymder rhwng 25 Mbps a 100 Mbps, gan hwyluso trosglwyddo data yn fwy cyflym a llyfn.
  • Perfformiad gwell 4G yn darparu lled band o oddeutu 200 Mbps (lled band uwch yn golygu lôn fwy eang fel bod mwy o geir yn gallu teithio ar yr un pryd). Lled band 4G yn golygu mae’n gallu derbyn mwy o ddata ar yr un pryd.
  • Diogelwch rhwydweithiau 4G yn cynnig preifatrwydd a diogelwch.

Cyfyngiadau

  • Darpariaeth signal 4G nid ym mhob ardal. Bydd y signal yn gorfod brwydro wrth fynd o gwmpas mynyddoedd neu gymoedd a thu fewn adeiladau.
  • Defnydd batris rhwydweithiau symudol 4G yn defnyddio cyfres o antenau a throsglwyddyddion sy’n gallu defnyddio mwy o bŵer batris dyfeisiadau symudol o gymharu â 3G.
  • Costau Costau defnyddio rhwydweithiau 4G yn gallu bod yn uwch na rhwydweithiau Wi-Fi traddodiadol.

5G

Uwchraddiad sylweddol o 4G i 5G, gyda’r dechnoleg yn lledu ar draws y DU.

5G Signalchecker.co.uk

Rhyngrwyd lloeren

Rhyngrwyd lloeren

Rhyngrwyd Lloeren yn gysylltiad rhyngrwyd sy’n defnyddio lloerenni i drosglwyddo data.

Mae’r broses yn gyrru signal o’ch dyfais i loeren yn y gofod, ac yna i orsaf ar y ddaear ac yn ôl i’ch dyfais.

Mae datblygiadau technolegol wedi arwain at osod lloerenni yn cylchu’r ddaear.

Mae hyn yn cynnig gwasanaeth llawer cyflymach a ‘latency’ llai.

Un darparwr mawr yw Starlink, sy'n cynnig cyflymder o 50-230 Mbps, sy'n amlwg o werth i rai sydd angen gwasanaeth rhyngrwyd cyflym iawn.

Mae cystadleuwyr eraill ar hyn o bryd yn cynnwys Cerberus, sy'n cynnig prisiau is ond cyflymder arafach.

Taclo heriau rhyngrwyd lloeren

Mae dysglau lloeren mewn cymoedd neu ar waelod llethrau yn gallu brwydro i olrhain y lloerenni.

Yn ogystal, mae tywydd gwael yn gallu effeithio ansawdd y signal, gan arafu neu ymyrryd â’r gwasanaeth.

Gwasanaeth rhyngrwyd mastiau sefydlog

Mae mastiau sefydlog yn gallu bod yn opsiwn rhyngrwyd ar gyfer ardaloedd gwledig. Bydd WISP (Wireless Internet Service Provider) yn codi mast mor uchel â phosibl er mwyn darparu cysylltedd llinell welediad.

Os bydd adeilad yn meddu ar linell welediad â’r antena, bydd yn gallu derbyn signal.

Manteision
  • Hygyrchedd
  • Costau 
Anfanteision
  • Llinell welediad 
  • Sensitifrwydd tywydd 
  • Gorwerthu 
Cyllid yng Nghymru

Cael hyd i’r cyllid sydd ar gael

Bydd deall y gwahanol opsiynau yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol wrth wneud cais.

Universal Service Obligation (USO)

Mae’r USO yn rhoi hawl i bobl yn y Deyrnas Unedig I wneud cais am gysylltiad rhyngrwyd fforddiadwy o 10Mbps o leiaf.

O dan USO, mae cartrefi a busnesau cymwys yn gallu gofyn am gysylltiad gan eu darparwr gwasanaeth os bydd y costau adeiladu’n llai na £3,400.

Talebau Gigabeit

Mae Llywodraeth y DU yn darparu grant Talebau Gigabeit sy’n cynnig cyllid ar gyfer gosodiadau rhyngrwyd ffeibr.

Mae'r grant yn darparu hyd at £4,500 ar gyfer costau gosod ffeibr mewn adeiladau cymwys.

  • Eisiau siarad â rhywun?

    Rydym yn deall eich bod weithiau eisiau siarad â rhywun am eich materion penodol a chael sicrwydd neu gyngor gan berson.

    Ffoniwch 07485923735 neu 01248 725700, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.

    Gallwch hefyd e-bostio enquiries@connectivity.cymru.

Cyflwynir y prosiect hwn i chi mewn cydweithrediad â ...

Gweithredir y prosiect gan:

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.