Mae cartref nodweddiadol yng Nghymru bellach yn dibynnu ar y rhyngrwyd i redeg yn gyflym ...
Mae eich mab wedi dod adref o’r ysgol ac yn sôn bod ei waith cartref yn galw am baratoi cyflwyniad ar chwedlau gwerin Cymreig ...
Fel arfer, byddwn yn codi’r ffôn er mwyn holi Google drwy’r app, teipio “Welsh Folk Legends” a chwilio er mwyn derbyn rhestrau o awgrymiadau - digon i ddechrau helpu’r mab gyda’i ymchwil.
Ond beth os nad oes cysylltiad rhyngrwyd?
Oni fydd gradd gennych yn y maes, yn adnabod rhywun gyda diddordeb yn y pwnc, neu’n fodlon treulio prynhawn Sadwrn yn y llyfrgell leol ... bydd angen mynd arlein.
Gyda phob ffaith am unrhyw bwnc ar gael arlein, mae cael hyd i wybodaeth am unrhyw beth yn haws nag erioed.
Gwasanaeth digon cyflym?
Ar ddiwedd diwrnod hir, bydd y rhan fwyaf ohonom yn eistedd, ymlacio ac efallai’n gwylio’r teledu. Ond os bydd eich partner yn gwylio Vlogger ar Youtube drws nesaf a phlentyn yn chwarae gêm yn ei ystafell wely, ydi eich sioe wedi arafu neu oedi? Gallw'n eich helpu ... cwblhewch y ffurflen i dderbyn copi o'r Canllaw Cysylltedd Digidol
Astudiaethau Achos
-
Eisiau siarad â rhywun?
Rydym yn deall eich bod weithiau eisiau siarad â rhywun am eich materion penodol a chael sicrwydd neu gyngor gan berson.
Ffoniwch 07485923735 neu 01248 725700, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.
Gallwch hefyd e-bostio enquiries@connectivity.cymru.