Fel arfer darperir eich cysylltiad rhyngrwyd gan ddyfais yn eich cartref gan eich cwmni gwasanaeth rhyngrwyd (ISP - internet service provider).

Sut i gysylltu â’r rhyngrwyd?

Bydd angen llwybrydd (router) i gysylltu â’r ISP  Dyma beth sy’n cysylltu eich cartref â gweddill y byd.

Eich ISP sy’n darparu’r cysylltiadau er cludo data o’r rhyngrwyd byd-eang i mewn i’ch cartref. Felly, wrth glicio ar ffilm neu lwytho ffeil o wefan, bydd y data yn teithio dros rwydwaith yr ISP i mewn i’ch cartref.

O ganlyniad, bydd angen dewis ISP yn eich ardal ac arwyddo contract i dalu am y gwasanaeth. Yna gallwch gysylltu pob dyfais yn eich cartref â’r llwybrydd (router) ar wi-fi neu gebl er mwyn mynd ar y rhyngrwyd.

Mewn byd delfrydol, bydd y rhyngrwyd yn gweithio heb unrhyw broblem, ond nid yw’r byd fel hynny!

Bydd rhaid i’ch dyfais a llwybrydd gefnogi’r broses er mwyn mwynhau cysylltiad wi-fi dibynadwy.

Mae pob rhwydwaith cartref yn unigryw a bydd dewis y llwybrydd iawn ar gyfer eich cysylltiad rhyngrwyd yn bwysig iawn.

Bydd y dewis yn dibynnu ar eich anghenion ac amgylchiadau. Bydd yn werth trio gosodiadau ac atebion gwahanol er mwyn canfod beth sydd orau i’ch rhwydwaith chi.

Problemau wi-fi cyffredin

Ymyriant signal

Mae llawer o eitemau yn y cartref yn gallu effeithio Wi-Fi, yn cynnwys microdonau, goleuadau Nadolig a ffonau heb gortyn.

Gormod o ddyfeisiadau

Yn debyg i ychwanegu mwy o chwistrellwyr ar bibell ddŵr yn yr ardd, bydd llai o ddŵr yn cyrraedd pob chwistrellydd.

Signal Wi-Fi

Os na fydd signal wi-fi yn gwasanaethu’r cartref cyfan, efallai bydd angen ymestyn y ddarpariaeth

Cysylltedd Digidol

Gwasanaeth digon cyflym?

Ar ddiwedd diwrnod hir, bydd y rhan fwyaf ohonom yn eistedd, ymlacio ac efallai’n gwylio’r teledu. Ond os bydd eich partner yn gwylio Vlogger ar Youtube drws nesaf a phlentyn yn chwarae gêm yn ei ystafell wely, ydi eich sioe wedi arafu neu oedi? Gallw'n eich helpu ... cwblhewch y ffurflen i dderbyn copi o'r Canllaw Cysylltedd Digidol

Safonau wi-fi

Mae’n werth meddwl am safonau wi-fi fel modelau ceir.

Bydd modelau newydd yn cynnwys nodweddion ychwanegol, er enghraifft cysylltiadau mwy cyflym a dibynadwy.

Wi-Fi 4 (802.11n)

Nid y mwyaf cyflym neu effeithiol, ond mae’n gweithio.

Wi-Fi 5 (802.11ac)

Mwy cyflym ac effeithiol na wi-fi 4, gan hwyluso ffrydio fideos, miwsig a gemau.

Wi-Fi 6 (802.11ax)

Mwyaf cyflym ac effeithiol, hyd yn oed o fewn rhwydweithiau prysur.

  • Mae taclo problemau wi-fi yn debyg i drwsio ceir, wrth nodi symptomau, darganfod yr achos ac yna cyflwyno’r ateb.

    Tebyg i yrru mewn traffig trwm, pan fydd dyfeisiadau ac apps eraill yn ymyrryd â signalau wi-fi, gan ostwng cyflymder neu ddatgysylltu gwasanaeth.

    Bryd hynny bydd yn werth trio newid y sianel wi-fi (dewis llwybr arall i osgoi traffig) neu symud y llwybrydd i ffwrdd o’r dyfeisiadau hynny (hynny yw man llai prysur).

  • Eisiau siarad â rhywun?

    Rydym yn deall eich bod weithiau eisiau siarad â rhywun am eich materion penodol a chael sicrwydd neu gyngor gan berson.

    Ffoniwch 07485923735 neu 01248 725700, byddwn yn hapus i sgwrsio â chi.

    Gallwch hefyd e-bostio enquiries@connectivity.cymru.

Cyflwynir y prosiect hwn i chi mewn cydweithrediad â ...

Gweithredir y prosiect gan:

Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.