Beth yw'r Gronfa Ddata Cyflenwyr?
Ym mis Ebrill 2025, fe wnaethom lansio Cronfa Ddata Cyflenwyr i gryfhau ymgysylltiad â chyflenwyr sydd â diddordeb yn ein cyfleoedd caffael. Mae'r gronfa ddata yn gweithredu fel offeryn cyfathrebu, gan hysbysu cyflenwyr cofrestredig am gyfleoedd newydd gan Uchelgais Gogledd Cymru a'n partneriaid cyn gynted ag y byddant yn mynd yn fyw ar safle Gwerthwch i Gymru.
Ers ei lansio, mae dros 130 o gyflenwyr wedi cofrestru gyda'r gronfa ddata, gan arwain at gynnydd mewn ymgysylltiadau, sy'n dangos y diddordeb cryf mewn cyfleoedd caffael cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.
Manteision y Gronfa Ddata Cyflenwyr
-
Yn gwella gwelededd cyfleoedd caffael i gyflenwyr cofrestredig.
-
Yn cynyddu nifer y cyflenwyr sy'n ymgysylltu â chyfleoedd tendro.
-
Yn cryfhau cyfranogiad lleol mewn caffael, yn enwedig gan gyflenwyr Gogledd Cymru.
-
Yn cefnogi cystadleuaeth decach a chynigion o ansawdd uwch.
Cysylltwch â Chyfleoedd Heddiw
Cyflwynwch eich manylion isod i gofrestru a dechrau derbyn hysbysiadau ar unwaith am gyfleoedd caffael.
Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal
-
Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein proses gaffael. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Cydraddoldebau 2010 a Deddf Caffael 2023, ein nod yw sicrhau bod cyfleoedd yn hygyrch i bawb ac er mwyn gwneud hynny mae angen i ni ddeall pwy sy'n ymgysylltu â'n proses dendro.
-
I gefnogi'r ymrwymiad hwn, mae’r atodiad Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal hefyd yn ganolog i'n helpu ni i asesu ac ehangu ein gweithgareddau caffael. Mae'r ymatebion yn cynnig cyfle gwerthfawr i ni adnabod a deall y rhwystrau y gallai SMEs fod yn eu hwynebu yn well, ac yn ein galluogi i archwilio sut y gallwn gynnig cymorth a chyfarwyddyd priodol i helpu cyflenwyr i gryfhau eu gallu yn y meysydd hyn.
Ni fydd cwblhau'r Ffurflen Cyfle Cyfartal yn dylanwadu ar gymhwysedd na penderfyniadau ynglyn a unrhyw gyflenwr mewn perthynas ag unrhyw gyfleoedd tendro gyda ni.