Tendro yw'r broses a ddefnyddir gan Uchelgais Gogledd Cymru i wahodd cyflenwyr i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i ni.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn tendro am unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu waith sy'n dod i gyfanswm o dros £50,000. Y nod yw creu cystadleuaeth effeithiol, deg a thryloyw rhwng cwmnïau er mwyn sicrhau gwerth am arian i Gyngor Gwynedd (ein awdurdod lleol lletyol) a'r trethdalwr.
Y gweithdrefnau tendro mwyaf poblogaidd y byddwn yn eu defnyddio yw:
- Y weithdrefn agored lle gall unrhyw gyflenwr dendro am waith heb orfod mynd drwy weithdrefn cyn-cymhwyso. Fel arfer, caiff hon ei defnyddio lle mae nifer cyfyngedig o gyflenwyr yn y farchnad neu lle mae lefel y risg yn isel.
- Y weithdrefn gyfyngedig lle mae gofyn i gyflenwyr lenwi Holiadur Cyn-Cymhwyso (HCC) cyn y gallant dendro am gontract risg uchel.
Prynu
Mae penderfyniadau ynghylch prynu yn rhai cymhleth, ac nid ydynt bob tro'n seiliedig ar y pris yn unig. Er enghraifft, wrth brynu nwyddau a gwasanaethau, byddem yn ystyried:
- 'Addas i bwrpas' (ansawdd ac addasrwydd ar gyfer y dasg)
- dull cyflawni ac argaeledd yn erbyn y pris
- cost perchnogaeth
- costau oes gyfan, gan gynnwys darnau sbâr, cynnal a chadw a'r amser segur disgwyliedig
- ar-gostau, megis cludiant a storio
- cost y caffael ei hun
- cynaladwyedd, cyfrifoldeb amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Rheolau
Gan y telir am nwyddau a gwasanaethau gydag arian cyhoeddus, mae yna reolau mewn lle i sicrhau lefel uchel o dryloywder ym mhob cam o'r broses gaffael. Yn fras, mae'r rheolau yn rhannu i bump grŵp:
- Cyfarwyddebau caffael Ewropeaidd
- Rheolau contract a chaffael y Cyngor
- Deddfwriaeth y DU
- Penderfyniadau polisi y Cyngor
- Rheoliadau ariannol y Cyngor