Mae Cynllun Datblygu Strategol yn cydnabod nad yw cynllunio ar gyfer ardal weinyddol awdurdod cynllunio lleol unigol o reidrwydd yn adlewyrchu sut mae pobl yn byw eu bywydau, sut mae marchnadoedd yn gweithredu na sut mae busnes yn gweithredu. 

Mae Cynllun Datblygu Strategol yn cynnig y gallu i sicrhau bod ardal ddaearyddol ehangach yn cael ei hystyried mewn un cynllun. Mae’n hwyluso creu gweledigaeth gydlynol, hirdymor sy’n mynd i’r afael ag anghenion a chyfleoedd unigryw ein cymunedau. 

Nod y cynllun yw meithrin twf economaidd cynaliadwy, gwella seilwaith, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol trigolion. Trwy gydweithio'n agos ag awdurdodau lleol, busnesau a rhanddeiliaid, bydd y CDS yn sicrhau bod datblygiad yn gytbwys ac yn gynhwysol, gan adlewyrchu dyheadau ein poblogaeth amrywiol. Mae’n mabwysiadu man canol rhwng y Cynllun Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a bydd yn darparu cyd-destun strategol ar gyfer paratoi CDLlau dilynol.  

Ymhellach, mae’r CDS yn ymateb i’r dyletswyddau statudol a osodwyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cydbwyllgorau Corfforaethol, gan sicrhau bod ein cynllunio rhanbarthol yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol a gofynion deddfwriaethol. Bydd y dull strategol hwn yn galluogi Gogledd Cymru i ffynnu, gan sicrhau dyfodol llewyrchus i genedlaethau’r dyfodol. 

Proses y Cynllun Datblygu Strategol a'r cam a gyrhaeddwyd

Wrth gynhyrchu CDS rhaid dilyn nifer o gamau allweddol:

Cam01.
Cytundeb Cyflawni:
Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam02.
Sail Tystiolaeth:
Check icon progress icon
Cam03.
Ymgysylltu Cyn-Adneuo:
Check icon progress icon
Cam04.
Ymgynhori Cyn-Adneuo:
Check icon progress icon
Cam05.
Cynllun Adnau:
Check icon progress icon
Cam06.
Archwilio:
Check icon progress icon
Cam07.
Mabwysiadu:
Check icon progress icon

Mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi dechrau gweithio ar y CDS ac mae wedi paratoi Cytundeb Cyflawni drafft fel cam cyntaf y broses hon. Yn ei hanfod, mae'r Cytundeb Cyflawni yn gynllun o sut y bydd y Cynllun yn cael ei baratoi. Mae ganddo ddwy brif ran:

  • Datganiad o Gyfranogiad Cymunedol – Yma nodir y cyd-destun ar gyfer creu'r cynllun, ynghyd â sut a phryd y gall partïon â diddordeb ymgysylltu â'r broses hon
  • Amserlen fanwl gan nodi pob cam allweddol yn y broses o ffurfio'r cynllun, pa mor hir y bydd yn ei gymryd, a phryd y disgwylir i'r cynllun gael ei gwblhau a'i fabwysiadu.

Ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni Drafft

 

Mae'r Cytundeb Cyflawni eisoes wedi'i rannu â swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion o bob Awdurdod Cynllunio Lleol yn y Gogledd er derbyn adborth ar ei ffurf a'i gynnwys, cyn cyhoeddi'r ddogfen ar gyfer ymgynghori.

Mae aelodau o is-bwyllgor Cynllunio Strategol y Cyd-bwyllgor Corfforedig hefyd wedi adolygu'r ddogfen ddrafft a bydd Bwrdd y Cyd-bwyllgor yn derbyn diweddariad ar ei gynnydd yn ei gyfarfod ar 18  Gorffennaf.

Mae'r Rheoliadau CDS yn diffinio ymgyngoreion penodol a chyffredinol a ddylai fod yn rhan o gynhyrchu'r Cytundeb Cyflawni. Ceir rhestr o'r grwpiau hyn yn atodiadau'r ddogfen Cytundeb Cyflawni drafft a bydd pob un o'r rhain yn cael eu cynnwys yn y broses ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni.

Bydd y Cytundeb Cyflawni Drafft ar gael i'w adolygu a chyflwyno sylwadau arno o 18 Gorffennaf tan 29 Awst 2025. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae croeso i unrhyw barti arall â diddordeb gyflwyno barn ar y ddogfen. Gellir gwneud hyn drwy e-bostio'r rhain yn uniongyrchol i'r cyfeiriad isod. Gellir anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r ddogfen neu'r broses ymgynghori at y cyfeiriad e-bost hwn.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth am gamau nesaf y broses CDS, nodwch eich manylion cyswllt, eich cwmni neu sefydliad, ac unrhyw ddiddordeb penodol yn y Cynllun, a byddwn yn ychwanegu'r rhain at gronfa ddata bostio a ddefnyddir i ddarparu diweddariadau rheolaidd a hysbysiadau am gyfnodau allweddol, digwyddiadau ymgynghori ac ati.