What is 5G?
Darperir mathau o rwydweithiau 5G cyhoeddus gan Weithredwyr Rhwydwaith Symudol ac maent yn hygyrch i'r cyhoedd yn gyffredinol. Mae'r rhwydweithiau hyn yn mynd ar draws ardaloedd daearyddol mawr, gan ddarparu cysylltedd ar raddfa eang i ddefnyddwyr a mentrau. Mae rhwydwaith 5G preifat yn ddiogel ac wedi'i ynysu o ddiddordeb y cyhoedd, gan alluogi i ddyfeisiau ac apiau awdurdodedig yn unig gysylltu a chyfnewid data gyda'i gilydd. Maent yn rhwydweithiau pwrpasol, annibynnol wedi'u dosbarthu a'u gweithredu gan fenter ar gyfer defnydd penodol. Mae'r rhwydweithiau hyn yn rhoi cysylltedd diogel, o berfformiad uchel mewn lleoliadau penodol.
Cymharu 5G Cyhoeddus gyda 5G Preifat
Gwasanaeth
Cyhoeddus: Gwasanaeth eang - Wedi'i ddylunio ar gyfer mynediad cenedlaethol, ar raddfa fawr.
Preifat: Ardal gwasanaeth cyfyngedig- Wedi'i adeiladu ar gyfer safleoedd neu leoliadau penodol; gall fod angen rhwydweithiau cyhoeddus ar gyfer cyrraedd ardaloedd pellach.
Perfformiad
Cyhoeddus: Perfformiad amrywiol- Gall cyflymder a dibynadwyedd amrywio oherwydd tagfeydd ar y rhwydwaith a defnydd a rennir.
Preifat: Perfformiad uwch- Cysylltedd parhaus, gyda llai o oedi a dibynadwyedd uchel, heb led band a rennir.
Mynediad
Cyhoeddus: Mynediad hawdd- Cysylltu'n sydyn heb lawer o osod, fel arfer drwy danysgrifiad.
Preifat: Mwy o osodiad- Angen cynllunio, caniatâd a gosod isadeiledd pwrpasol.
Rheolaeth
Cyhoedus: Rheolaeth gyfyngedig- Ychydig o ddylanwad dros ffurfweddu, adnoddau neu ansawdd y gwasanaeth.
Preifat: Addasiad a rheolaeth lawn- Mae sefydliadau yn rheoli gosodiad, perfformiad a diogelwch y rhwydwaith.
Cost ac Ymdrech
Cyhoeddus: Effeithlonrwydd cost ar gyfer defnydd cyffredinol- Dim angen adeiladu neu reoli isadeiledd.
Preifat: Mwy o gostau ac ymdrech- Angen buddsoddiad ar gyfer dylunio, gosod a rheoli parhaus (neu wasanaeth a reolir).
Diogelwch
Cyhoeddus: Pryderon diogelwch- Mwy o amlygrwydd oherwydd mynediad cyhoeddus a rennir.
Preifat: Diogelwch cryf- Mae mynediad cyfyngedig a rheolaeth lawn yn lleihau risg allanol.
Dwysedd Dyfais
Cyhoeddus: Cefnogi nifer o ddyfeisiau- Addas ar gyfer defnydd bob dydd, ond nid yw'n ddelfrydol ar gyfer anghenion cenhadaeth hanfodol.
Preifat: Mwy o ddwysedd dyfais- Wedi'i ddylunio ar gyfer miloedd o ddyfeisiau mewn ardaloedd cyfyng megis campysau neu ffatrïoedd.
Cysylltu â ni
Os hoffech fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu â thîm Uchelgais Gogledd Cymru ar: digital@ambitionnorth.wales