Mae cysylltedd lloeren (yn aml yn cael ei alw'n rhyngrwyd lloeren) yn fodd o gael mynediad at y rhyngrwyd drwy loerennau yn y gofod yn hytrach na mastiau ffonau symudol neu geblau.

Sut mae cysylltedd lloeren yn gweithio?

  • Mae llwybrydd Wi-Fi yn cysylltu â dysgl lloeren
  • Mae'r ddysgl yn arwain data at loeren
  • Mae'r lloeren yn trosglwyddo'r data i orsaf ar y ddaear sydd wedi cysylltu â'r rhyngrwyd
  • Mae'r data yn dod yn ôl yr un ffordd, gan alluogi i'ch dyfeisiau bori, ffrydio neu wneud galwadau fideo

Mae eich ffôn, tabled neu liniadur yn cysylltu drwy Wi-Fi, fel arfer, ond mae'r cysylltedd gefndirol drwy loeren.

Lle mae Cysylltedd Lloeren yn cael ei ddefnyddio

Mae cysylltedd lloeren fwyaf cyffredin mewn llefydd lle mae opsiynau rhyngrwyd eraill yn wael neu ddim ar gael: 

  • Cartrefi gwledig neu anghysbell
  • Ffermydd a phentrefi bach
  • Cychod a llongau
  • Safleoedd gwaith pell
  • Ardaloedd argyfwng neu drychineb 

Manteision

  • Mae'n gweithio bron ym mhob man
  • Does dim angen ceblau ffeibr neu linellau ffôn
  • Defnyddio fel cysylltedd wrth gefn

Cyfyngiadau

  • Gall y tywydd effeithio arno 
  • Gall offer a thanysgrifiadau fod yn ddrutach
  • Gall cyflymder amrywio yn seiliedig ar ble mae'r lloeren yn medru cyrraedd

Cysylltu â ni

Os hoffech fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu â thîm Uchelgais Gogledd Cymru ar: digital@ambitionnorth.wales