Cefndir
Yn 2025, lansiodd Uchelgais Gogledd Cymru Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru. Cynigwyd cyllid i brosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â datrysiadau ynni lleol blaengar a phrosiectau datgarboneiddio ehangach yn y sector gwirfoddoli a'r sector preifat (SME) ar draws Gogledd Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd â chyllid cyfalaf sydd ar gael ar hyn o bryd drwy Gronfa Fuddsoddi i Gymru, Banc Busnes Prydain a Chynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd, Banc Datblygu Cymru, ymhlith eraill.
I gyd-fynd â hyn, bydd cymorth astudiaeth dichonoldeb yn helpu sefydliadau gogledd Cymru sydd yn datblygu prosiectau ynni glân neu ddatgarboneiddio drwy ddarparu cymorth i baratoi cynigion cryf, sydd yn barod am fuddsoddiad.
Bydd y cymorth yma yn cael ei gynnig gan gyflenwr a dewiswyd o flaen llaw gan Uchelgais Gogledd Cymru, hyd at werth £15,000 (eithrio TAW) i bob cais llwyddiannus.
Cymhwyster
Mae sefydliadau cymunedol a busnesau bach a chanolig (SMEs) yn cymwys i wneud cais, cyhyd â bod gan sefydliadau ei brif leoliad yn un neu fwy o'r 6 awdurdod lleol hon yng ngogledd Cymru: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam, ac yn gallu dangos tystiolaeth eu bod yn masnachu o eiddo yng ngogledd Cymru.
Mae cymorth ar gael ar gyfer un sefydliad y sir, gan olygu cyfanswm o chwe phrosiect - un ar gyfer phob sir yng ngogledd Cymru.
- Mae rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ein ffurflen ar-lein isod
- Ni chaiff ceisiadau anghyflawn eu hystyried.
- Mae pob gwobr yn ddewisol, does dim proses apêl.
- Nid yw cyflwyno cais yn gwarantu y bydd cefnogaeth yn cael ei darparu.
- Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus weithio gyda chyflenwr a ddewiswyd ymlaen llaw gan Uchelgais Gogledd Cymru.
Cam 3 - Ffurflen Gais
Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy y ffurflen yma erbyn 5 Awst 2025.
Os bydd mwy o gyllid yn dod ar gael neu os na fydd cymorth wedi'i neilltuo ym mhob sir, mae gan Uchelgais Gogledd Cymru yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'r prosiect hwn yn cael ei gyflawni yn siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.