Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn chwilio am arweinwyr o’r sector preifat i ymuno â’i Fwrdd Busnes Ymgynghorol newydd. Bydd angen i gynrychiolwyr feddu ar rwydweithiau cryf, sgiliau arwain, a barn strategol i helpu i yrru economi ranbarthol gynaliadwy a gwydn. Bydd y Bwrdd Busnes Ymgynghorol yn helpu i lunio penderfyniadau pwysig ynghylch datblygu economaidd a buddsoddi ar draws Gogledd Cymru drwy ddarparu cyngor strategol, mewnwelediad diwydiant, a her annibynnol.
Bydd aelodau’r bwrdd yn cefnogi mentrau mawr sydd eisoes ar y gweill, gan gynnwys Bargen Twf Gogledd Cymru a Pharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Gyda’i gilydd, mae’r prosiectau hyn yn cynnwys £400 miliwn o fuddsoddiad gan y llywodraeth, gyda’r nod o ddenu hyd at £2 biliwn yn ychwanegol a chreu dros 10,000 o swyddi dros y degawd nesaf.
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan arweinwyr busnes llwyddiannus a pharchus sydd â:
- Brofiad arwain ar lefel uwch mewn busnes neu fenter
- Dealltwriaeth gadarn o economi Gogledd Cymru a’r cyfleoedd sydd ar gael
- Brwdfrydedd dros gydweithio a thwf rhanbarthol
- Y gallu i feddwl yn strategol a herio’n adeiladol
- Ymrwymiad i amrywiaeth, cynaliadwyedd a thwf cynhwysol
Dyddiadau Allweddol
10yb 5 Mehefin 2026
12 Mehefin 2026
TBC
TBC