Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn galw ar sefydliadau a mentrau bach i edrych ar eu cronfa cymorth ysgrifennu bidiau, sydd bellach yn gwahodd ceisiadau.

Mae'r cymorth wedi'i anelu'n benodol at y rheini sy'n datblygu prosiect datgarboneiddio neu ynni glân - megis paneli solar, pympiau gwres, hydro, inswleiddio - a fydd angen gwneud cais am gyllid cyfalaf (h.y. cyflawni prosiectau) yn y dyfodol agos.

 

Bydd y cyllid hwn, a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn talu am ymgynghorwr arbenigol ac ymroddedig i helpu i gwblhau ceisiadau am gyllid a/neu i ddarparu'r sgiliau a'r wybodaeth i gwblhau bidiau llwyddiannus am gyllid yn y dyfodol. Bydd y cymorth hwn yn sicrhau bod prosiectau datgarboneiddio yn cael eu cyflwyno'n gadarn ac yn barod i wneud cais am gyllid cyflawni prosiectau.

 

Bydd grantiau o hyd at £5,000 ar gael fesul sefydliad.

 

Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 30 Medi, fodd bynnag anogir ceisiadau cynnar, gan y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin ar draws chwe sir Gogledd Cymru.

quotation graphic

Dywedodd Sandra Sharp, Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Rydym yn annog pob sefydliad a menter gymunedol fach i edrych mewn i'r cynnig o’r gronfa cymorth ysgrifennu bidiau. Gallai wneud gwahaniaeth enfawr i weld prosiectau ynni gwyrdd pwysig yn cael eu rhoi ar waith, drwy ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol.”

 

“Bydd y cymorth ysgrifennu bid hefyd yn gyson â, ac yn helpu i alluogi, ceisiadau am gyllid i Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru (cyllid cyfalaf), yr ydym yn bwriadu ei lansio yn 2025.”

quotation graphic

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru – ar gyfer ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.

 

I ddarganfod mwy, dylai sefydliadau sydd â diddordeb cliciwch yma.