Ymwelodd yr RT Simon Hart (AS) â Meddygfa Caerffynnon, sydd wedi manteisio ar gynllun LFFN. Yn ogystal mae Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Caeirdydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, Rheolwr Practis, Mrs Sarah Tibbetts a Rheolwr Digidol Uchelgais Gogledd Cymru, Kirrie Roberts    

 

Mae meddygfeydd, gorsafoedd ambiwlans ac ysbytai cymunedol ymysg y dros 300 o leoliadau ar draws Gogledd Cymru i dderbyn cymorth i wella eu cysylltedd band eang, diolch i raglen Rhwydwaith Ffibr Llawn Leol (LFFN) wedi ei ddarparu gan Uchelgais Gogledd Cymru, a’i ariannu gan Lywodraeth y DU.

 

Mae'r sector gofal iechyd wedi gwynebu heriau mawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf oherwydd y pandemig. Mae cynnydd mewn galw gwasanaethau cleifion a chyflwyno gweithdrefnau newydd wedi rhoi pwysau sylweddol ar y sector. Gyda chyfyngiadau Covid ar waith, mae'r symudiad tuag at ymgynghoriadau rhithiol a gwasanaethau ar-lein, wedi cynyddu'r ddibyniaeth ar dechnoleg a chysylltedd digidol.

 

 Mae cynllun LFFN wedi targedu safleoedd cyhoeddus yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys y safleoedd hynny sy'n bwynt cyswllt cyntaf yn y system gofal iechyd. Helpu’r safleoedd hynny i fynd i’r afael â rhai o’r heriau a achosir gan wasanaethau band eang araf neu annibynadwy, eu cefnogi i fabwysiadu ffyrdd mwy effeithlon o weithio’n ddigidol ac yn y pen draw eu helpu i wella’r gwasanaethau a ddarperir i gleifion.

  

Un Feddygfa, sydd wedi gweld buddion o’r cynllun yw Meddygfa Caerffynnon, Dolgellau. Dywedodd Mrs Sarah Tibbetts, Rheolwr Practis:

 

"Mae cael gwell cysylltiad a band eang cyflymach yn golygu ein bod wedi gallu darparu gwell gwasanaeth i'n cleifion. Mae gostyngiad yn yr aros i dasgau gweinyddol gael eu cwblhau wedi arwain at gleifion yn aros llai am apwyntiad. Rydym hefyd wedi gallu ychwanegu gwasanaethau o'r fath fel fideo-gynadledda i helpu cleifion o bell, sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i lawer o'n cleifion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed."

 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd wedi gweld manteision o’r cynllun, ychwanegodd Y Prif Weithredwr, Jo Whitehead: “Mae cyfathrebu a chysylltedd o’r radd flaenaf yn hanfodol i ni er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n cwrdd ag anghenion y boblogaeth leol. Gall cysylltiadau cyflymach, sy’n ddibynadwy drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio. Mae band eang gwell yn cefnogi ein timau a’n systemau ar draws Gogledd Cymru ac yn ein galluogi i berfformio’n well.”

   

Mae’r cynllun £6.5miliwn, y mwyaf o’i fath yng Nghymru, yn ymestyn cysylltedd ffibr ar draws y sector cyhoeddus, ochr yn ochr â buddsoddiad ehangach mewn cymunedau gan y ddwy Lywodraeth. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau mewn cymunedau gwledig sydd wedi dioddef yn flaenorol o gysylltedd digidol gwael ond sydd bellach yn cael cysylltiadau band eang cyflymach a mwy dibynadwy.

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais Economaidd: “Rydym i gyd yn gwybod y pwysau y mae’r sector hwn wedi’i wynebu dros y ddwy flynedd ddiwethaf – mae’n werth gallu chwarae rhan wrth helpu’r gwasanaethau hynny i weithredu’n fwy effeithlon.”

 

“Nid yw’n braf cael cysylltedd cyflym mwyach, mae’n anghenraid a bydd yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd i ddod. Mae ein cynllun LFFN wedi golygu cysylltiadau cyflymach a mwy dibynadwy mewn safleoedd allweddol, gan gynnwys cymunedau gwledig, a fydd yn helpu gwasanaethau a busnesau ar draws Gogledd Cymru i weithio’n well a dod yn fwy cynhyrchiol yn y tymor hwy.”

 

Wedi'i hariannu gan Lywodraeth y DU, mae cronfa her y Rhwydwaith Ffibr Llawn Lleol (LFFN) hefyd wedi cynnwys uwchraddio cysylltedd i'r Cynghorau ar draws chwe sir Gogledd Cymru.

 

Dywedodd Julia Lopez, Gweinidog Seilwaith Digidol Llywodraeth y DU: “Rwy’n falch o glywed bod ein buddsoddiad band eang yn gwneud gwahaniaeth i bobl Gogledd Cymru. Mae hyn yn lefelu ar waith, gan roi hwb i wasanaethau cyhoeddus gyda’r band eang gorau posibl, ni waeth ble mae pobl yn byw.

 

“Dim ond dechrau yw hi ar ein cynllun i hybu band eang yng Nghymru, gyda miloedd o gartrefi a busnesau anodd eu cyrraedd ar fin cael cysylltiadau cenhedlaeth nesaf drwy ein Prosiect Gigabit gwerth £5 biliwn.”