Mae economi wledig Gogledd Cymru ar fin cael budd o gyllid sylweddol gan y Cynllun Twf, gan fod Uchelgais Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r Achos Cyfiawnhad Busnes ar gyfer buddsoddiad £3.5m tuag at ddatblygu Defaid Llaeth Cymru. Dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, bydd y prosiect yn sefydlu canolfan brosesu llaeth defaid arloesol a phwrpasol fel rhan o brosiect ehangach Hwb Economi Wledig Glynllifon. 

Gyda chefnogaeth gan Gynllun Twf Gogledd Cymru, £200k gan Grŵp Llandrillo Menai, a £1m arall gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn darparu cyfleuster newydd o'r radd flaenaf ar gyfer godro defaid, datblygu cynnyrch, hyfforddiant a chefnogaeth i fentrau ar gampws Glynllifon ger Caernarfon. Gyda galw cynyddol am gynnyrch llaeth defaid ar draws y byd, nod y prosiect yw rhoi Gogledd Cymru ar flaen y gad mewn sector sy'n datblygu gan fynd i'r afael â'r bylchau presennol mewn isadeiledd ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth a masnacheiddio. 

Defaid Llaeth Cymru yw un o bedair prif elfen prosiect Hwb Economi Wledig Glynllifon, rhan o fuddsoddiad £19.2m ehangach a gefnogir gan y Cynllun Twf. Nod y prosiect yw datgloi potensial economaidd ardaloedd gwledig drwy arloesedd, cynaliadwyedd ac arallgyfeirio. Mae cydrannau allweddol eraill yn cynnwys Datblygiad Llaeth Cynaliadwy a hwb, gydag Amaeth-dechnoleg yn chwarae rôl ganolog ar draws y prosiect. 

quotation graphic

Meddai y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd, Uchelgais Gogledd Cymru ac Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: ⁠

"Mae Defaid Llaeth Cymru yn fuddsoddiad sy'n edrych i'r dyfodol. Mae'n cefnogi'r math o arloesedd gwledig yr ydym ei angen ac mae ganddo wir botensial i gystadlu mewn marchnadoedd byd-eang. Mae'n esiampl gref o sut all y Cynllun Twf gyflawni gwerth economaidd ac amgylcheddol."  

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: 

"Mae'r buddsoddiad hwn yn Nefaid Llaeth Cymru yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi cymunedau gwledig ac adeiladu system fwyd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o'r weledigaeth hon o'r cychwyn cyntaf ac yn allweddol wrth arwain y prosiect i'r pwynt hwn. Drwy gefnogi prosiectau arloesol fel y ganolfan £4.7 miliwn hon, rydym yn helpu ffermwyr i arallgyfeirio eu gweithrediadau, gan greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc yn y Gymru wledig, a rhoi'r DU ar flaen y gad mewn marchnadoedd amaethyddol sy'n datblygu. 

"Mae'r sector llaeth defaid yn cynrychioli'r union fath o ddull blaengar yr ydym ei angen i gryfhau ein heconomi wledig tra'n cyflawni ein hymrwymiadau sero net. Nid yn unig y bydd y cyfleuster hwn yn cefnogi 80 o fentrau ac yn creu dwsinau o swyddi, ond bydd hefyd yn helpu ffermwyr i fabwysiadu arferion carbon isel sydd o fudd i'w busnesau a'r amgylchedd. 

"Mae prosiectau fel Defaid Llaeth Cymru yn dangos sut gall buddsoddiad wedi'i dargedu drwy'r Cynllun Twf ddatgloi potensial economaidd ardaloedd gwledig. Drwy gyfuno arloesedd, cynaliadwyedd a datblygu sgiliau, rydym yn adeiladu cymunedau gwledig gwydn sy'n gallu cystadlu yn fyd-eang gan barhau i fod wedi'u gwreiddio yn eu treftadaeth a'u tirwedd leol." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin: 

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin: “Mae prosiect Defaid Llaeth Cymru yn enghraifft wych o sut mae Llywodraeth y DU, trwy ein buddsoddiad yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru, yn cefnogi cymunedau gwledig.  

“Bydd y prosiect hwn yn creu swyddi mewn sector amaethyddol arloesol a chynaliadwy, lle mae potensial enfawr ar gyfer twf. Rydym am i bob rhan o Gymru fod yn rhan o’n cenhadaeth twf economaidd a sicrhau bod cyfleoedd i genedlaethau’r dyfodol weithio ble bynnag y dymunant.” 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygiad Masnachol, Grŵp Llandrillo Menai:

"Mae'r prosiect hwn yn ymwneud ag adeiladu rhywbeth sydd â'r potensial i greu effaith gadarnhaol barhaol ar y Gymru wledig. Drwy fuddsoddi mewn arloesedd llaeth defaid, rydym yn helpu ffermwyr i arallgyfeirio, gan greu cyfleoedd newydd i bobl ifanc, a chryfhau'r economi leol. Glynllifon yw'r lle iawn i arwain y gwaith hwn, drwy ddwyn arbenigedd a chymuned ynghyd." 

quotation graphic

Gyda chanolfan ragoriaeth yng Nglynllifon, bydd y prosiect yn helpu i arallgyfeirio incymau fferm, yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ac yn cryfhau safle Gogledd Cymru mewn marchnad ddatblygol o gynnyrch llaeth defaid o ansawdd. 

Mae angen i bob prosiect yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru ddatblygu Achos Busnes, sy'n ffurfio rhan o broses gymeradwyo strwythuredig. Mae cymeradwyo achos busnes Defaid Llaeth Cymru yn galluogi i'r prosiect fwrw ymlaen i'r wedd nesaf i sicrhau cyllid Cynllun Twf a pharatoi ar gyfer cyflawni.