• Catherine Morris-Roberts, Uwch Swyddog Cyflawni Sgiliau, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru

    Bellach mae sgiliau digidol yn fwy na rywbeth "dymunol" ar gyfer busnesau yng Ngogledd Cymru - maent yn hanfodol.  P'un a ydych chi'n rhedeg microfusnes yng nghefn gwlad Gwynedd neu'n rheoli busnes mawr yn Wrecsam neu Lannau Dyfrdwy, mae bod yn gystadleuol yn yr economi heddiw yn golygu deall a buddsoddi mewn gallu digidol.

Dyna pam rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth Sgiliau Digidol newydd ar gyfer cyflogwyr yn ein rhanbarth.

 Mae'n ganllaw ymarferol, hawdd ei ddefnyddio, gyda'r bwriad o helpu arweinwyr busnes i lywio'r maes uwchsgilio digidol sy'n aml yn gymhleth. P'un a ydych chi newydd ddechrau eich taith ddigidol neu'n ystyried mabwysiadu technolegau mwy datblygedig, mae'r pecyn cymorth yn darparu man cychwyn clir.


Y neges rydym wedi'i chlywed yn gyson gan fusnesau ledled y rhanbarth yw eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd sgiliau digidol, ond nad ydynt bob amser yn siŵr ble i ddechrau. Mae llawer yn teimlo'n ddihyder wrth adnabod y sgiliau digidol penodol sydd eu hangen ar eu timau. Nid yw rhai yn ymwybodol o'r opsiynau hyfforddi sydd ar gael. Mae eraill yn meddwl mai dim ond ar gyfer staff newydd y mae prentisiaethau, nid ar gyfer uwchsgilio staff presennol.


Mae'r pecyn cymorth hwn yn ymateb uniongyrchol i'r adborth hwnnw. Cafodd ei greu yn benodol i ymateb i anghenion cyflogwyr. Mae'n cynnig llwybrau strwythuredig i'ch helpu i asesu eich sefyllfa bresennol, i ddeall pa sgiliau digidol sydd eu hangen ar eich gweithlu, a chymryd camau ystyrlon. Gallai hynny fod trwy gwrs byr, prentisiaeth, neu drwy archwilio meysydd mwy datblygedig fel AI, seibrddiogelwch neu ddadansoddi data.


Eto, mae hwn yn fwy na dim ond cyfeiriadur hyfforddiant. Mae'n cysylltu datblygu sgiliau ag allbynnau ymarferol - pethau fel gwella cynhyrchiant, gwella seibrddiogelwch, neu ymgorffori awtomeiddio yn eich prosesau. Yn ogystal, mae'n canolbwyntio ar hygyrchedd. Mae llawer o'r opsiynau a restrir yn cael eu hariannu neu eu hariannu'n rhannol, gan gynnwys cymorth drwy Raglen Sgiliau Hyblyg Llywodraeth Cymru.


Un o'r meysydd allweddol o dan sylw yw'r potensial o ddefnyddio prentisiaethau. Mae rhai cyflogwyr yn parhau i feddwl mai dim ond wrth recriwtio pobl ifanc sy'n gadael ysgol y mae'r rhain yn berthnasol. Ond gellir defnyddio prentisiaethau digidol i uwchsgilio gweithwyr presennol hefyd, ac maent ar gael ar sawl lefel, o Lefel 2 hyd at lefel gradd. Yn y pecyn cymorth rydym wedi rhestru'r holl brentisiaethau digidol sydd ar gael, ochr yn ochr â'r darparwyr hyfforddiant, er mwyn i chi wybod yn union â phwy i gysylltu. Gall yr eglurder hwnnw wneud gwir wahaniaeth.


I gyflogwyr sy'n teimlo'n ansicr neu wedi eu gorlethu, mae dau gam cychwynnol hawdd a all helpu. Yn gyntaf, nodwch unrhyw fylchau sgiliau digidol yn eich tîm. Yn ail, estynnwch  allan at ddarparwr. Nid oes angen i chi gael yr holl atebion cyn i chi gysylltu. Dyna yw swyddogaeth y darparwyr - i'ch helpu i ddeall beth sydd ar gael a'ch tywys drwy'r opsiynau.


Mae'r pecyn cymorth hefyd yn cysylltu'n uniongyrchol â Phorth Sgiliau Gogledd Cymru, sy'n cynnig gwybodaeth fanylach am ddarparwyr a'u cyrsiau. Rhwng y pecyn cymorth a'r porth, rydym yn gobeithio symleiddio mynediad at gymorth a rhoi hyder i gyflogwyr weithredu.


Does dim dwywaith fod cyflymder newidiadau digidol yn gallu teimlo'n ddi-baid. Ond nid yw hyn yn rhywbeth y gall busnesau fforddio'i anwybyddu. Bydd diffyg gallu digidol yn gynyddol yn llesteirio cwmnïau - nid yn unig o ran cynhyrchiant, ond hefyd wrth ddenu a chadw staff, rheoli gweithrediadau yn effeithlon, ac aros yn gystadleuol mewn marchnad sy'n newid.


Rydym hefyd yn gweld bod gweithwyr iau sy’n ymuno â'r gweithlu yn arddangos ymwybyddiaeth digidol gynyddol, gyda llawer ohonynt eisoes yn disgwyl i dechnoleg fod yn rhan o'u bywydau gwaith. Nid yn unig mae busnesau sy'n buddsoddi mewn sgiliau digidol yn cefnogi eu timau presennol; byddant hefyd yn dod yn fwy deniadol wrth ddenu talent yn y dyfodol.


Os nad ydych chi'n siŵr a yw hyn yn berthnasol i'ch busnes, byddwn yn eich annog i'w ystyried. Mae'n berthnasol ar draws pob sector, p'un a ydych ym maes lletygarwch, adeiladu, gweithgynhyrchu, iechyd a gofal, neu'r diwydiannau creadigol. Nid oes angen i chi fod yn gwmni technoleg i elwa ar sgiliau digidol. Y gwir yw fod pob swydd bellach yn gofyn am ryw lefel o gymhwysedd digidol, a rhaid i bob busnes gynllunio ar gyfer hynny.


Trwy gymryd ychydig o gamau syml - darllen y pecyn cymorth, adnabod anghenion eich tîm, a siarad â darparwr hyfforddiant - byddwch yn rhoi eich busnes mewn sefyllfa gryfach. Yn y byd economaidd heddiw, nid rhywbeth dewisol yw sgiliau digidol. Maent yn sylfaen i wytnwch, twf a llwyddiant hirdymor.

Mae'r Pecyn Cymorth Llwybr Sgiliau Digidol ar gael yma: