Mae Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Uchelgais Gogledd Cymru a phartneriaid wedi croesawu cadarnhad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch datblygiad Parth Buddsoddi yn y rhanbarth.

Bydd y buddsoddiad o hyd at £160m, dros 10 mlynedd, yn cwmpasu siroedd y Fflint a Wrecsam – gyda buddion pellgyrhaeddol, yn ymestyn ar draws Gogledd Cymru a thu hwnt.   

Nod ymrwymiad y ddwy lywodraeth yw gwella a thyfu clwstwr gweithgynhyrchu uwch o bwys byd-eang, a fydd yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Chyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd – a elwir yn Uchelgais Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Wrecsam.  

Eisoes yn gartref i weithrediadau gweithgynhyrchu gwerth uchel a safleoedd diwydiannol strategol – bydd y Parth Buddsoddi yn rhyddhau rhagor o botensial i Sir y Fflint a Wrecsam drwy gynnig cyfuniad unigryw o gymorth, seilwaith a chymhellion wedi’u targedu sydd wedi’u dynllunio i ddenu a chynnal busnesau. Mae’r cyfle sylweddol ar gyfer twf eisoes wedi’i gydnabod, gyda chewri fel Airbus a JCB yn mynegi cefnogaeth.

quotation graphic

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cadeirydd, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cyng. Dave Hughes, Arweinydd, Cyngor Sir y Fflint, Aelod o Gyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: 

“Mae’r Parth Buddsoddi ar fin trawsnewid y rhanbarth yn ganolbwynt o ragoriaeth gweithgynhyrchu uwch, gan ei wneud yn argoel hynod ddeniadol i fuddsoddwyr a mewnfuddsoddiad. Nid hwb tymor byr yn unig yw’r pecyn cyllid posibl o £160 miliwn, mae’n addewid degawd o hyd i fuddsoddi’n barhaus yn seilwaith y rhanbarth a bydd yn creu miloedd o swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel. I fuddsoddwyr, mae hyn yn golygu amgylchedd sefydlog, cefnogol lle gall eu busnesau ffynnu – gan greu conglfaen i ddatblygiad economaidd yn y rhanbarth.  

“Mae’n gyfnod cyffrous, a hoffem ddiolch i lywodraethau’r DU a Chymru am eu gweledigaeth a’u hymrwymiad i Ogledd-ddwyrain Cymru.   

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r llu o gyflogwyr, sefydliadau ac unigolion lleol sydd wedi helpu i ddod â’r Parth Buddsoddi yn nes at realiti – rydym wedi cael pobl anhygoel yn gweithio ar y prosiect hwn a bydd eu cefnogaeth barhaus yn hollbwysig.”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Alwen Williams, Prif Weithredwr Dros Dro, Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd:

 

“Mae potensial y Parth Buddsoddi hwn yn aruthrol - gan sicrhau ffordd o ysgogi twf busnesau gweithgynhyrchu uwch dros y degawd nesaf. Bydd nid yn unig yn galluogi datblygu safleoedd allweddol, ond hefyd y seilwaith sydd ei angen i’w cyflawni’n effeithiol, ochr yn ochr â’r gweithlu medrus sydd ei angen i wneud y safleoedd hynny’n llwyddiant.
“Yn hollbwysig i ni, mae cynaliadwyedd hefyd wrth wraidd cynlluniau’r dyfodol, gyda phartneriaid yn ymrwymo i alinio datblygiadau ag egwyddorion gweithgynhyrchu gwyrdd, creu swyddi sgiliau uchel a sbarduno twf economaidd tra hefyd yn gwarchod ein hamgylchedd. Mae hwn yn gyfle hynod gadarnhaol i Ogledd Cymru, ac rwy’n gyffrous am y posibiliadau sydd ganddo.” 

quotation graphic