Mae Parc Gwyliau Spring Gardens yng ngogledd Cymru wedi adeiladu enw da am greu gofod croesawgar, cymunedol i berchnogion ymlacio a gorffwys ynddo. Gyda chefnogaeth Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru – sy’n rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru a redir gan Uchelgais Gogledd Cymru – mae'r busnes bellach yn cymryd camau ymarferol i sicrhau ei ddyfodol ynni drwy leihau costau a buddsoddi mewn ffordd fwy cynaliadwy o weithredu.

Wedi'i leoli ger Llanelwy, mae Parc Gwyliau Spring Gardens yn cynnig lleoliad heddychlon i berchnogion carafanau statig a chabanau gwyliau.

Yn eiddo i Gwyn a Haf Williams a'u hŵyr, Tom Williams, mae'r parc wedi'i drawsnewid o safle teithiol adfeiliedig i gymuned wyliau ffyniannus 72 llain, gyda phwyslais cryf ar gysylltiad a rhannu profiad.

O gynnal digwyddiadau rheolaidd i berchnogion i gadw tŷ clwb croesawgar, mae'r parc wedi'i gynllunio i gynnig y teimlad o gartref oddi cartref.

Mynd i'r afael â'r her o gostau ynni cynyddol 

Fel llawer o fusnesau, mae Parc Gwyliau Spring Gardens wedi wynebu pwysau cynyddol oherwydd costau ynni uwch. 

Gyda chyfleusterau i'w rhedeg ac ymrwymiad i gynnal profiad o ansawdd uchel i berchnogion, roedd dod o hyd i ateb cynaliadwy a chost-effeithiol yn flaenoriaeth. 

Ar yr un pryd, roedd cyfle clir i fabwysiadu agwedd fwy rhagweithiol at ynni, gan wella effeithlonrwydd wrth leihau effaith amgylcheddol. 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Tom Williams: "Mae costau ynni wedi dod yn bryder gwirioneddol i fusnesau fel ein un ni. Roedden ni eisiau chwilio am ffordd i gymryd rhywfaint o reolaeth yn ôl a gwneud y parc yn fwy cynaliadwy ar gyfer yr hirdymor." 

Dod o hyd i'r gefnogaeth gywir 

I ystyried y dewisiadau posib, aeth y perchnogion at UMi trwy ei wasanaeth cyllid masnachol sy’n cael ei ddarparu ar ran ⁠Uchelgais Gogledd Cymru, ac wedi'i gynllunio i gefnogi busnesau i fuddsoddi mewn ynni glân a lleihau allyriadau carbon.  

Ar gyfer Spring Gardens, roedd y penderfyniad i weithio gydag UMi yn ymwneud â’r profiad ei hun, nid dim ond y cyllid. 

"Roedd y tîm yn hawdd i gysylltu â hwy, yn rhagweithiol, ac yn cymryd amser i ddeall yr hyn yr oedden ni’n trio ei gyflawni." eglura Tom. "Wrth gwrs, roedden ni eisiau’r cyllid, ond fe wnaethon ni ddewis UMi a'r Gronfa Ynni Glân oherwydd y gefnogaeth a roddwyd i ni trwy gydol y broses." 

Troi cynlluniau'n weithredu ymarferol 

Gyda chefnogaeth UMi, sicrhaodd Parc Gwyliau Spring Gardens gyllid masnachol i fuddsoddi mewn system ynni solar. 

Roedd hyn yn cynnwys gosod dros 100 o baneli solar ar do tŷ clwb y parc, a fydd yn darparu arbediad carbon blynyddol o 10,607kg CO2. 

Trwy gydol y broses, darparodd UMi arweiniad a chefnogaeth, gan helpu'r tîm i fynd trwy’r broses ymgeisio a chyflawni'n hyderus. 

Yn ôl Tom: "Roedd cael y gefnogaeth honno'n gwneud gwahaniaeth mawr. Fe wnaeth ein helpu i symud ymlaen efo rhywbeth a allai fod wedi bod yn eitha’ cymhleth fel arall." 

Lleihau costau ac adeiladu gwytnwch 

Mae'r gosodiad eisoes yn helpu Parc Gwyliau Spring Gardens i: 

  • Leihau ei ddibyniaeth ar ffynonellau ynni allanol 

  • Gwella ei ddiogelwch ynni 

  • Gostwng costau gweithredu yn yr hirdymor 

  • Lleihau ei allyriadau carbon 

Arwain drwy esiampl 

I Tom, mae'r prosiect hefyd yn gyfle i ddangos yr hyn sy'n bosibl. Mae'n gobeithio y bydd eu profiad yn annog busnesau eraill i feddwl yn wahanol am sut maen nhw'n rheoli ynni. 

Trwy fanteisio ar gyllid i fuddsoddi mewn ynni glân, mae Parc Gwyliau Spring Gardens  yn dangos sut y gall busnesau o bob maint gymryd camau ystyrlon tuag at gynaliadwyedd. 

Dywed Tom: "Os ydi o’n gweithio i ni, mi all weithio i eraill hefyd. Weithiau mae o’n ymwneud â gwybod be’ sydd ar gael a chael yr hyder i wneud y cam cyntaf 'na. Wrth gwrs, mae'n fuddsoddiad a fydd yn talu ar ei ganfed yn yr hirdymor, ond mae o hefyd wedi gwneud gwahaniaeth ar unwaith i ni wrth ostwng ein biliau. Ryden ni’n gallu defnyddio'r arbedion i dalu arian yn ôl ar y benthyciadau ar gyfer y paneli." 

Ydych chi'n meddwl buddsoddi mewn ynni glân?

Os ydych chi'n fusnes yng ngogledd Cymru sy'n ystyried sut i leihau eich costau ynni a gweithredu’n fwy cynaliadwy, cysylltwch â UMi am sgwrs am eich amcanion.