Mae potensial trawsnewidiol Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei deimlo fwyfwy ar draws y rhanbarth, wrth i brosiect digidol newydd symud i’r cam nesaf.

Mae hyn yn dilyn cymeradwyo’r achos cyfiawnhad busnes ar gyfer prosiect y Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel (LPWAN) gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Mae buddsoddiad LPWAN yn elfen allweddol o’r prosiect Campysau Cysylltiedig ehangach dan Raglen Ddigidol y Cynllun Twf. Ei nod yw cyflawni gwelliannau seilwaith a fydd yn cryfhau technoleg ddiwifr a’r modd y caiff ei defnyddio ar draws y rhanbarth. Mae LPWAN yn darparu cysylltedd pŵer isel diwifr dros bellter, gan alluogi ystod eang o ddyfeisiau a synwyryddion i gael eu cysylltu'n gost effeithiol.

Bydd y fenter yn canolbwyntio ar gwmpas presennol math o technoleg LoRaWAN (Rhwydwaith Ardal Eang Ystod Hir), i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus trwy rhagor o ddefnydd o’r ‘Rhyngrwyd Pethau’  (Internet of Things - IoT). Bydd mynediad i'r rhwydwaith hefyd yn galluogi i fusnesau archwilio cyfleoedd ar gyfer arloesi, gan ddefnyddio ystod eang o synwyryddion a dyfeisiau. Mae ehangu'r ddarpariaeth yn cyd-fynd â Strategaeth Ddigidol i Gymru, Llywodraeth Cymru, drwy gefnogi arloesedd gan ddefnyddio Rhyngrwyd Pethau (IoT) a thechnolegau rhwydwaith diwifr. Erbyn 2027, nod y prosiect yw darparu cysylltedd hygyrch ar draws y chwe sir Gogledd Cymru.

quotation graphic

Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Nod prosiect Campysau Cysylltiedig yw datblygu’r rhanbarth yn ganolbwynt arloesi digidol. Mae cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer LPWAN yn rhan bwysig o hyn. Hoffwn ddiolch i’r swyddogion sydd wedi gwneud cymaint o gynnydd hyd yma, gan sicrhau bod y prosiect hefyd yn gosod y llwyfan ar gyfer datblygiadau economaidd a thechnolegol pellach.

“Mae’r fenter wedi’i chynllunio er mwyn sicrhau y gallwn fanteisio ar y dechnoleg diwedaraf ac annog busnesau i dreialu ffyrdd newydd o weithio. Mae manteision LPWAN eisoes wedi’u dangos drwy brosiect SMART Gwynedd a Môn, sy’n defnyddio data i lywio penderfyniadau ynghylch adfywio’r stryd fawr. Mae cynghorau megis Wrecsam, wedi bod yn ymchwilio i’r potensial ar gyfer y dechnoleg hefyd, gyda nod clir i gefnogi darparu gwasanaethau a’n huchelgeisiau ar gyfer Trefi SMART”

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae cael cysylltiad gwell yn hanfodol ar gyfer bob un ohonom ni. Mae’n dda gweld bod y Cynllun Twf yn cefnogi’r prosiect hwn a fydd yn helpu’r rhanbarth i adeiladu ar ei gryfderau presennol i ddod yn ganolbwynt arloesi digidol, gan gynnwys y gwaith sydd wedi’i wneud eisoes yng Nghonwy, Gwynedd a Wrecsam gyda thechnoleg LoRaWan.”

quotation graphic

Y gobaith yw y bydd buddsoddiad LPWAN yn cefnogi creu swyddi trwy gydol ei gyflawniad erbyn 2032, ac yn galluogi gwelliannau o ran darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr y sector cyhoeddus a’r sector preifat.

  • Monitor Ansawdd Aer LoRaWAN yn cael ei leoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

    Enghraifft o gais LoRaWAN yng Ngogledd Cymru.

Ar gyfer ymholiadau’r wasg cysylltwch â:

Llinos Iorwerth ar llinos@atebcymru.wales / 07970 997124

Erin Thomas ar erin@atebcymru.wales / 07533 514027