-
Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru
Mae llawer o siarad am ddeallusrwydd artiffisial ar hyn o bryd – a iawn yw hynny. O'r potensial am gynnydd mewn cynhyrchedd i'r risgiau o ddadleoli ac anghydraddoldeb, mae'r dechnoleg eisoes yn ail-siapio'r ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.
Ond, yr hyn sy'n aml ar goll yw cynllun clir, wedi'i seilio ar le, ar gyfer sut rydym yn ymateb. Yng ngogledd Cymru, mae gennym wir gyfle i wneud DA weithio i ni – ond, dim ond os ydym yn gweithredu nawr ac yn gweithredu gyda'n gilydd.
Mae gennym eisoes sylfaen gref. Gyda dwy brifysgol a dau goleg addysg uwch, mae gennym y cynhwysion ar gyfer darpariaeth gyson o sgiliau cadarn. Rydym hefyd yn gwneud cynnydd pwysig ar isadeiledd digidol. Ar gyfer busnesau lle mae DA ac awtomeiddio yn dod yn greiddiol i weithrediadau, mae'r asedau hyn yn gynyddol ddeniadol.
Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy na gobeithio bod ein asedau yn siarad drostynt eu hunain. Y gwir gwestiwn yw sut ydym yn adeiladu ar yr hyn sydd gennym, a sut ydym yn sicrhau bod manteision DA yn cael eu teimlo ymhob rhan o'r rhanbarth – nid yn unig yn ein canolfannau trefol neu ymhlith y cwmnïau mwy digidol aeddfed.
Dyma lle mae partneriaethau cyhoeddus-preifat yn hollbwysig. Drwy gydweithio ar draws sectorau, gallwn adnabod y rolau, busnesau a sectorau lle mae DA yn debygol o gael yr effaith fwyaf, a chymryd dull rhagweithiol i reoli'r newid hwnnw. Nid yw'n ymwneud â lliniaru risgiau’n unig – mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd newydd, yn enwedig ar gyfer pobl a llefydd sy'n cael eu gadael ar ôl yn rhy aml.
Mae gwir berygl, heb y dull cydlynol hwnnw, ein bod yn gadael i anghyfartaledd dyfu. Yng ngogledd Cymru, fel nifer o ranbarthau, rydym eisoes yn gweld y risg o dalent yn cael ei ddenu i lefydd eraill – i ddinasoedd mwy, neu at gyflogwyr sy'n medru talu mwy. Gyda DA yn creu mwy o gyfleoedd sgiliau-uchel, bydd y risg hwnnw ond yn tyfu oni bai ein bod yn creu llwybrau gyrfa grymus gartref.
Mae rhan o'r ateb yn ymwneud â chefnogi busnesau newydd a chysylltiedig (spin-outs). Rwyf wedi gweld hyn yn gweithio mewn rhanbarthau eraill, yn benodol lle mae prifysgolion a busnesau yn gweithio ochr yn ochr i ddatblygu syniadau a mynd â nhw i'r farchnad. Yng ngogledd Cymru, mae angen i ni greu gofod ar gyfer mwy o hynny – ac mae MSParc, sydd eisoes yn gweithio i gapasiti, yn enghraifft rhagorol o'r math o amgylchedd a all wneud gwahaniaeth.
Felly, tra bo' cynnydd da, mae angen i ni symud yn gyflymach. Mae hynny'n golygu adeiladu partneriaethau cryfach, datblygu'r offer polisi angenrheidiol ar lefel lleol, a chanolbwyntio ar gynhwysiant o'r dechrau.
Os cawn hynny'n iawn, ni fydd DA yn rhywbeth sy'n digwydd i ni yn unig. Bydd yn rhywbeth sy'n ein galluogi i adeiladu economi cryfach, mwy cynhwysol ar gyfer y dyfodol.