Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn galw ar sefydliadau a mentrau bach yn Sir y Fflint, ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ynys Môn i ymchwilio i'w Cronfa Cymorth Ysgrifennu Bid, sydd bellach ar agor tan ddiwedd mis Medi. 

Roedd ceisiadau i fod i gau ym mis Awst, fodd bynnag ceisir mwy o geisiadau o'r ardal, felly mae estyniad i'r dyddiad cau wedi'i sicrhau.   

Mae’r grantiau’n benodol ar gyfer sefydliadau a mentrau bach sy’n datblygu prosiect datgarboneiddio neu ynni glân fel paneli solar, pympiau gwres, hydro neu insiwleiddio – y bydd angen gwneud cais am gyllid cyfalaf (h.y. cyflawni prosiect) yn y dyfodol agos. 

Wedi’u hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, bydd y grantiau – o hyd at £5,000 y sefydliad, yn talu am gynghorwyr arbenigol i helpu i gwblhau gynigion bid a/neu helpu i ddarparu’r wybodaeth i’w cwblhau’n llwyddiannus yn y dyfodol.   

Mae’r amseru’n arbennig o briodol, gan y bydd y cyngor a’r arweiniad arbenigol a ddarperir yn helpu i alluogi ceisiadau am gyllid i Gronfa Ynni Glân Gogledd Cymru, a fydd yn cael ei lansio yn 2025. 

quotation graphic

Dywedodd Sandra Sharp, Rheolwr Prosiect Ynni a Sero Net, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae ein Cronfa Cymorth Ysgrifennu Bid wedi derbyn cryn ddiddordeb o bob rhan o Ogledd Cymru. Fodd bynnag, hoffem weld mwy o geisiadau o Sir y Fflint, ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ynys Môn – fel y gall ei sefydliadau a’i mentrau cymunedol bach elwa o’r cynnig a gweld mwy o brosiectau ynni gwyrdd yn cael eu rhoi ar waith.” 

quotation graphic

I gael manylion cymhwysedd llawn a phecyn cais, dylai sefydliadau sydd â diddordeb ymweld â https://uchelgaisgogledd.cymru/cydweithio-rhanbarthol/prosiectau-cronfa-ffyniant-gyffredin/grant-cymorth-ysgrifennu-bid/ neu e-bostio energy@ambitionnorth.wales.  

Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru – ar gyfer ardaloedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.  

Mae ceisiadau cymwys yn cael eu hannog yn gryf ar hyn o bryd gan sefydliadau a mentrau bach yn Sir y Fflint, ardal Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ynys Môn. Byddwn yn parhau i dderbyn ceisiadau gan Wynedd, Sir Ddinbych a Chonwy, fodd bynnag, oherwydd gor-alw yn y lle cyntaf, byddant yn cael eu rhoi ar restr wrth gefn tra’n disgwyl y posibilrwydd y rhyddhawyd cyllid pellach.