Gallai ymgyrch i frwydro yn erbyn diffyg cysylltedd digidol yng nghefn gwlad gogledd Cymru achub bywydau

 

Bydd Clinigau Cysylltedd yn darparu cyngor ac arweiniad ar fynediad i'r rhyngrwyd

 

Mae ymgyrch fawr wedi'i lansio i wella cysylltedd cefn gwlad gogledd Cymru ar ôl iddi gael ei datgelu nad oes gan un o bob chwe chartref fynediad at fand eang cyflym iawn.

Nod prosiect Cysylltedd Digidol Gwledig yw helpu deiliaid tai, busnesau a sefydliadau ar draws y rhanbarth i oresgyn y problemau o gael eu lleoli mewn mannau lle nad oes cysylltedd da.

Mae'r cynllun i fynd i'r afael â'r diffyg digidol yn cael ei arwain gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae'n cael ei gyflwyno ar eu rhan gan ddwy asiantaeth fenter wledig, Menter Môn o Ynys Môn yn y gorllewin a Cadwyn Clwyd yn Sir Ddinbych yn y dwyrain.

Maent yn trefnu cyfres o Glinigau Cysylltedd lle mae arbenigwyr ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad am ddim er mwyn ceisio sicrhau mynediad dibynadwy a chyflym i'r rhyngrwyd.

I unrhyw un na all fynychu unrhyw un o'r sesiynau, maent hefyd wedi cynhyrchu Canllaw Cysylltedd hawdd ei ddeall rhad ac am ddim, er mwyn helpu pobl i fynd i'r afael â'r broblem. Mae’r canllaw ar gael ar wefan www.cysylltedd.cymru.

Ymhlith yr ymgynghorwyr sy'n rhedeg y clinigau mae Geraint Strello, sydd â dros 40 mlynedd o brofiad yn y diwydiant TGCh.

Yn ôl Geraint, mi fydd cael mynediad at fand eang cyflym iawn yn agor cyfleoedd newydd ar gyfer siopa ar y rhyngrwyd, chwarae gemau a gweithio gartref, gallai achub eich bywyd a hyd yn oed gynyddu gwerth eich cartref.

quotation graphic

Dywedodd:

"Er bod gan lawer o eiddo yng ngogledd Cymru fynediad at fand eang cyflym iawn mae'n bwysig nad ydym yn anghofio'r rhai nad oes ganddyn nhw yr un cysylltedd a'n nod ni yw eu gwneud yn ymwybodol o'r cyfleoedd sydd ar gael i ddod â gwasanaeth cyflym iddyn nhw.

"Gallai'r buddion fod yn enfawr, nid yn unig ar gyfer mynediad at wybodaeth ac ar gyfer gwaith, ond hefyd at wasanaethau sy'n gallu monitro lles pobl a'u galluogi i fyw'n fwy annibynnol.

"Er enghraifft, mae systemau monitro sy'n gallu dysgu trefn ddyddiol y rhai sy'n byw yn yr eiddo ac os bydd rhywbeth yn newid yn ddramatig, er enghraifft os yw'r toiled yn cael ei fflysio sawl gwaith yng nghanol y nos, neu'r drws ffrynt neu'r drws cefn ar agor, bydd larwm canu.

"Mae yna synwyryddion ar gael sy'n monitro lefelau carbon deuocsid ac os nad yw wedi newid ers cwpl o ddiwrnodau mi allai hynny golygu nad oes neb wedi ymweld ers tro felly mi fyddai cadw llygad ar hynny’n lleihau'r risg o ynysu cymdeithasol i bobl fregus.

"Mae llawer o apiau ar gael a all newid bywydau pobl er gwell mewn ffyrdd cymharol syml."

Dywedodd y gallai fod opsiynau ar gyfer band eang symudol 4G neu 5G neu gysylltiad lloeren i'r rhai sy'n cael cysylltedd dibynadwy yn anodd ar hyn o bryd.

Dywedodd: "Bydd ymgynghorwyr o Menter Môn a Cadwyn Clwyd a Chyngor Sir Ddinbych mewn digwyddiadau ar draws y Gogledd i roi cyngor, ateb cwestiynau ac egluro beth fydd yn gweithio orau i bobl yn eu hardal nhw.

"Pan rydych chi'n meddwl am ba mor bell rydyn ni wedi dod a daearyddiaeth y rhanbarth yna mae'n stori bositif, ond mae mwy o waith i'w wneud eto ac os ydych chi'n byw mewn lleoliad anghysbell yna mi allai cysylltedd gwell gostio mwy i chi ond efallai bod help ar gael."

(Geraint Strello)

quotation graphic

Mae gan ychydig llai na thri chwarter o gartrefi yng Nghymru fand eang ffibr llawn o'i gymharu â 78% yn yr Alban, 85% yn Lloegr a 97% yng Ngogledd Iwerddon.

Yng ngogledd Cymru, Ynys Môn yw'r sir sydd â'r gwasanaeth gwaethaf gan ddarparwyr band eang gyda mwy nag un o bob tri eiddo, 35 y cant, heb ffibr llawn i'r cartref o'i gymharu â chanran ar gyfer Wrecsam o 10 y cant tra bod Gwynedd ar 19.4%, Sir Ddinbych 18.5%, Sir y Fflint 15% a Chonwy 12%.

Kiki Rees-Stavros, o Menter Môn, sy'n arwain ar y prosiect yng Ngogledd Orllewin Cymru yn siroedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy tra bod Helen Williams, o Cadwyn Clwyd, a Philip Burrows o Gyngor Sir Ddinbych yn arwain ar y prosiect yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn siroedd Dinbych, Y Fflint a Wrecsam.

quotation graphic

Dywedodd Kiki:

"Rydym yn targedu deiliaid tai a busnesau sydd â chyflymder band eang isel yn benodol, ond mae ein cyngor yn berthnasol i unrhyw un sydd am wella eu cyflymder.

"Rydym am godi ymwybyddiaeth o'r camau y galla nhw eu cymryd i hybu eu cysylltedd byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio ar draws y Gogledd wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.

"Rydym wedi nodi'r ardaloedd sydd â'r gyfran uchaf o adeiladau sydd â chyflymder band eang isel ac er ein bod yn targedu pobl sydd â chyflymder isel, mae ein cyngor yn berthnasol i unrhyw un sydd am wella eu derbyniad band eang."

(Kiki Rees-Stavros)

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Helen Williams:

"Yn y bôn, ni yw'r brocer gonest sy'n dweud wrth bobl beth yw eu dewisiadau i gael gwasanaeth band eang gwell, oherwydd ei fod yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

"Mae'n rhoi cyfle i lawer o bobl weithio neu hyd yn oed redeg busnes gartref a gall hefyd roi hwb i werth y cartref hwnnw.

"Gall agor cymaint o gyfleoedd oherwydd bod cymaint o newid yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio technoleg a band eang ac yn aml mae sawl dyfais yn gweithredu yn yr un eiddo ar yr un pryd."

(Helen Williams)

quotation graphic

Byddant yn cynnal Clinigau Cysylltedd yn i gynnig cyngor a gwybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i uwchraddio gwasanaeth band eang.:

  • Sioe Môn ddydd Mawrth a dydd Mercher, Awst 13 a 14
  • Sioe Dinbych a Fflint yn Ninbych ar ddydd Iau, Awst 15
  • Llyfrgell Corwen, ar ddydd Mawrth, Awst 20, rhwng 10am ac 1pm
  • Llyfrgell Llangollen, ar ddydd Iau, Awst 29, rhwng 10am ac 1pm
  • Llyfrgell yr Wyddgrug ar ddydd Mercher, Medi 4, rhwng 12 a  2pm
  • Llyfrgell Wrecsam, ar ddydd Iau, Medi 5, rhwng 12 a 2pm
  • Cynhelir sesiynau eraill yng Ngherrigydrudion ar Fedi 7, Llyfrgell Llanrwst ar Fedi 18 ac yn Nhreialon Cŵn Defaid Dolwyddelan ar Fedi 21.

Bydd manylion am ddigwyddiadau pellach yn cael eu postio ar y wefan, www.cysylltedd.cymru. 

Mae'r prosiect yn rhedeg tan 31 Hydref yn Wrecsam a than 31 Rhagfyr yn y pum sir arall yng ngogledd Cymru.