Gwahoddir busnesau a thirfeddianwyr i gymryd rhan mewn cyfle newydd arwyddocaol.

Gan weithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, mae Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi cyhoeddi galwad agored am brosiectau a safleoedd i lywio datblygiad Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.  Bydd dealltwriaeth o safleoedd addas a phrosiectau buddsoddi yn helpu i nodi cwmpas ac uchelgais yr hyn y gall y Parth Buddsoddi ei gyflawni

Mae’r cyfle i gymryd rhan yn gyfle anhygoel, felly anogir busnesau a thirfeddianwyr i gyflwyno eu syniadau erbyn y dyddiad cau, sef 26 Gorffennaf 2024.

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Datganiad Hydref Trysorlys EM y cyfle cyffrous hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Sir y Fflint a Wrecsam i gyd-ddatblygu cynnig i sicrhau pecyn cyllido o hyd at £160 miliwn.  Nod y cyllid yw targedu safleoedd a phrosiectau allweddol i wella a thyfu clwstwr gweithgynhyrchu uwch a fydd yn gydnabyddus yn fyd-eang ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru dros y deng mlynedd nesaf. 

Fel cam nesaf, gofynnir am gynigion sy'n tynnu sylw at brosiectau arloesol, effaith uchel sy'n gallu trawsnewid yr economi leol yn Sir y Fflint a Wrecsam. Nod yr alwad yw nodi safleoedd allweddol sy'n addas i'w datblygu i gefnogi rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch, i feithrin twf economaidd, creu swyddi, a datblygiad technolegol. 

 

Anogir busnesau a thirfeddianwyr sydd â diddordeb i gwblhau ffurflen sy'n amlinellu sgôp eu cynnig, yr effaith economaidd bosibl, a pharodrwydd y prosiect ar gyfer datblygiad. Mae gan y cynghorau ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sydd:  

  • Yn cynnig technolegau phrosesau gweithgynhyrchu arloesol.  
  • Gyda'r potensial i greu swyddi sgiliau uchel.  
  • Yn cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd a gweithgynhyrchu gwyrdd.  
  • Yn gallu dangos llwybr clir at weithredu. 

 

Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, gall busnesau gysylltu â chydlynydd y prosiect Iain Taylor Iain@imtconsulting.co.uk

 

Mae'r fenter yn gyfle sylweddol i fusnesau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu uwch gyfrannu at, ac elwa o, ddatblygiad hŵb weithgynhyrchu flaenllaw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Drwy gymryd rhan, gall busnesau:

  • Cael cyllid sylweddol i gefnogi prosiectau arloesol.
  • Bod yn rhan o glwstwr gweithgynhyrchu o bwys byd-eang.
  • Meithrin partneriaethau gydag awdurdodau lleol a busnesau eraill.
  • Helpu i lunio dyfodol gweithgynhyrchu uwch yn y rhanbarth.

 

Mae cyhoeddi dynodiad Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch yn gyfle trawsnewidiol i Sir y Fflint a Wrecsam.

quotation graphic

Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd):

 “Mae potensial y Parth Buddsoddi hwn yn aruthrol. Drwy gydweithio, gallwn greu clwstwr gweithgynhyrchu ffyniannus, cynaliadwy a chystadleuol yn fyd-eang yn Sir y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle hynod gadarnhaol i’n rhanbarth, ac rwy’n gyffrous am y posibiliadau sydd ganddo.

“Wrth inni symud ymlaen, rwy’n annog holl randdeiliaid i ymgysylltu â’r fenter hon. Rhannwch eich syniadau, amlygwch eich anghenion, a rhowch wybod i ni sut y gallwn gefnogi eich twf. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod Sir y Fflint a Wrecsam yn dod yn feincnod ar gyfer rhagoriaeth gweithgynhyrchu uwch.”

quotation graphic

I gael rhagor o fanylion gwyliwch y Drafodaeth Mewnwelediadau Busnes hon a gynhelir gan Carwyn Jones, yn cynnwys Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd) ac Iain Taylor, Cyfarwyddwr yn IMT Consulting ac Uwch Gydymaith, AMION Consulting:

https://businessnewswales.com/open-call-for-advanced-manufacturing-projects-and-sites-for-investment-zone-in-flintshire-and-wrexham/