Bydd platfform newydd yn agor drysau i bobl a chyflogwyr yng Ngogledd Cymru drwy rannu cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, gwybodaeth cyflogadwyedd a cyfleoedd twf o fewn y rhanbarth.

Yr wythnos hon, fe lansiodd Portal Sgiliau Gogledd Cymru sef platfform newydd ar-lein, er mwyn agor drysau i gyfleoedd yn y rhanbarth. Mae’n cynnig mynediad at swyddi, prentisiaethau, a chyfleoedd hyfforddiant yn ogystal a darparu cefnogaeth i gyflogwyr er mwyn datblygu ei gweithle.

Wrth gydweithio gyda partneriaid allweddol, mae’r Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (RSP) wedi datblygu’r Portal gan ddefnyddio adborth gan gyflogwyr a diwydiant. Roedd yr adborth yn awgrymu y gallai fwy gael ei wneud i helpu pobl a chyflogwyr i ddeall y gwahanol gyfleoedd, hyfforddiant, a chefnogaeth yn y rhanbarth.

Mae'r Portal yn mynd i'r afael â hyn trwy ddarparu hwb i bobl sy’n chwilio am eu cyfle nesaf ac i gyflogwyr sy’n ystyried ehangu eu rhwydweithiau ar gyfer talent lleol. Mae’n ei wneud yn haws i bobl ddeall yr amrywiaeth o opsiynau cyflogadwyedd a’r sgiliau sydd eu hangen yn sectorau twf Gogledd Cymru. Bydd y platfform, sydd am ddim i’w ddefnyddio, yn cynnwys digwyddiadau lleol, adnoddau cyflogadwyedd, ac arweiniad er mwyn hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael yn y rhanbarth.

quotation graphic

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd yr RSP:

"Mae'r Portal yn gam mawr ymlaen i Ogledd Cymru. Trwy roi cyfleoedd a'r gwasanaethau cymorth gwych mewn un lle, rydyn ni’n ei gwneud yn haws i bobl ddeall y llwybrau cyflogadwyedd yn yr ardal, yn ogystal a’r gefnogaeth bwysig ar gyfer gwella recriwtio, cadw a datblygu staff sydd ar gael. Ar yr un pryd, rydyn ni’n mynd i'r afael â'r bylchau sgiliau mae cyflogwyr ar draws y rhanbarth yn eu hwynebu.”

"Mae defnyddio adborth gan gyflogwyr lleol, gwybodaeth am y farchnad lafur, ac ymchwil ranbarthol i ddeall yr heriau yng Ngogledd Cymru wedi bod yn hanfodol. Datblygwyd y Portal gyda'r adborth hwn mewn golwg ac mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol fel colegau rhanbarthol, prifysgolion, darparwyr hyfforddiant annibynnol, Gyrfa Cymru a darparwyr cyflogadwyedd eraill.

quotation graphic

Fel un o bedair partneriaeth ledled Cymru, mae RSP Gogledd Cymru yn dwyn ynghyd gyflogwyr, darparwyr sgiliau a rhanddeiliaid allweddol i ddeall anghenion cyflogwyr yn well ar lefel leol a rhanbarthol. Maent hefyd yn dadansoddi gwybodaeth ranbarthol y farchnad lafur ac adborth gan gyflogwyr, sydd wedyn yn cael ei adrodd i Lywodraeth Cymru. Mae'r RSP yn annog ceiswyr gwaith, pobl a chyflogwyr Gogledd Cymru i wneud y gorau o'r Portal a dod o hyd i'w cyfle nesaf.

Mae Porth Sgiliau Gogledd Cymru wedi derbyn £75,000 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am fwy o wybodaeth am y Portal, ewch i: https://portal-gogledd.cymru/cy/ neu cysylltwch â reesbrown@uchelgaisgogledd.cymru