Bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr (SRhC) yn meithrin Arloesi yn y Clwstwr Technoleg Amaeth-dechnoleg a Bwyd ar gyfer Canolbarth a Gogledd Cymru, a byddant yn cydlynu gweithgareddau ac yn hyrwyddo cyfleoedd ariannu sydd ar gael yn y clwstwr lleol drwy brosiect a fydd yn rhedeg i ddechrau am ddwy flynedd gan ddefnyddio cyllid gan Innovate UK.

Nod y SRhC yw cryfhau cydweithio rhwng busnesau, sefydliadau ymchwil, a phartneriaid rhanbarthol i hybu arloesedd a bod yn gystadleuol yn y sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaethyddol.

Bydd grŵp llywio strategol sy'n goruchwylio'r SRhC yn cael ei arwain gan Tyfu Canolbarth Cymru ac Uchelgais Gogledd Cymru mewn partneriaeth ag ArloesiAber ac M-SParc. Gyda'i gilydd, byddant yn cefnogi busnesau drwy ddigwyddiadau, gweminarau a chyfleoedd ariannu - cryfhau rhwydweithiau a chydweithio ar draws y rhanbarth.

quotation graphic

Dywedodd Carwyn Jones-Evans ar ran Tyfu Canolbarth Cymru:

"Mae'r cyllid hwn yn garreg filltir bwysig i'r sectorau bwyd-amaeth a thechnoleg amaeth yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Bydd y Sefydliad Rheoli Clwstwr yn gyfrwng hanfodol ar gyfer dod â busnesau, partneriaid ymchwil a chyfleoedd ariannu ynghyd, gan sicrhau bod ein rhanbarth yn parhau i fod ar flaen y gad o ran arloesi technolegol."

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Elliw Hughes, Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae lansio'r Sefydliad Rheoli Clwstwr yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn ein galluogi i harneisio a gwneud y mwyaf o botensial enfawr y sectorau technoleg bwyd-amaeth ledled Gogledd a Chanolbarth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at chwarae rhan ganolog yn y broses o sicrhau bod sefydliadau cymwys yn elwa o'r cyllid sydd ar gael."

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber:

"Mae'r lansiad hwn yn foment allweddol i ni, ac rydym yn gyffrous i gefnogi'r clwstwr bwyd-amaeth. Ein nod yw dod â busnesau a sefydliadau ymchwil ynghyd i arloesi mewn ffyrdd sy'n economaidd hyfyw ac yn gynaliadwy yn amgylcheddol."

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc:

"Mae'r clwstwr amaeth-dechnoleg rydyn ni'n ei reoli eisoes yn cymryd camau breision ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i gefnogi arloeswyr disgleiriaf y rhanbarth."

quotation graphic

Anogir busnesau a phartneriaid ymchwil i archwilio cynigion arloesedd yr ardal leol a chymryd rhan yn y clystyrau rhanbarthol.

I ddysgu mwy am y cyfleoedd cyllido a sut i gymryd rhan, ewch i: