Croesawodd Uchelgais Gogledd Cymru y newyddion am Barth Buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint, gan estyn llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi bod yn allweddol wrth gefnogi’r cynllun.
Mae'r Parth Buddsoddi, sydd werth hyd at £160 miliwn, wedi dod gam yn nes ar ôl i Lywodraeth y DU addo ei gefnogi – gyda’r cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref y Canghellor ddydd Mercher (22.11.23).
Heddiw (23.11.23) mae’r Canghellor yn ymweld â Gogledd-ddwyrain Cymru, sy’n gartref i ddwy o ystadau diwydiannol mwyaf Ewrop yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam, a sector Creadigol a Digidol ffyniannus a fydd yn derbyn y buddsoddiad ar gyfer arloesi, seilwaith a sgiliau a phrosiectau hyfforddi.
Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cynnwys dynodi Caerdydd a Chasnewydd yn Barth Buddsoddi yng Nghymru. Bydd y ddwy ardal yn ymuno â rhanbarthau Lloegr sef Dinas Lerpwl, Manceinion Fwyaf, De Swydd Efrog, Gorllewin Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Teesside, ynghyd â dau ranbarth yn yr Alban, sef Dinas Glasgow a Gogledd-ddwyrain yr Alban.
Yn gynharach y mis hwn fe ddatgelodd Llywodraeth Cymru ei bod hithau hefyd yn cefnogi’r syniad a allai olygu miloedd o swyddi newydd a hwb o £1.7 biliwn i economi’r rhanbarth.
Mae Joanna Swash, Prif Weithredwr Grŵp y darparwr cyfathrebu allanol Moneypenny o Wrecsam wedi arwain consortiwm sy’n cefnogi’r Parth Buddsoddi, ynghyd â JCB, Airbus, Cyngor Busnes Gogledd Cymru, Net World Sports, Theatr Clwyd, cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint, Prifysgol Wrecsam ac AMRC Cymru.
Meddai Joanna: “Mae hwn yn ddiwrnod arwyddocaol iawn nid yn unig i Ogledd-ddwyrain Cymru ond i Gymru gyfan oherwydd mae’n cadarnhau ein lle fel arweinydd ym maes gweithgynhyrchu uwch a’r sector creadigol a digidol, lleoliad y mae busnesau sy’n adnabyddus yn rhyngwladol yn awyddus i weithredu ohono.
“Yn y ddau sector hyn mae Gogledd-ddwyrain Cymru yn gartref i rai o’r enwau mwyaf yn eu meysydd gan gynnwys Airbus, Toyota, JCB, Eren, Theatr Clwyd, Moneypenny, Hoya Lens, Sharp, Net World Sports, Kronospan, Hydro Wrexham ac Ifor Williams Trailers.
“Mae hwn yn lle gwych i gynnal busnes a bydd statws Parth Buddsoddi yn annog twf a buddsoddiad pellach gyda hyd at £160 miliwn o gefnogaeth i’r Parth yn helpu i amddiffyn ein degau o filoedd o swyddi medrus presennol a chreu miloedd yn rhagor.
“Bydd y rhain yn swyddi medrus iawn sy’n talu’n dda ac sy’n creu ystod o opsiynau gyrfa rhagorol i’n pobl ifanc.
“Bydd yn arwain at well seilwaith a chysylltiadau trafnidiaeth a mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant ac yn gwneud Gogledd-ddwyrain Cymru yn ganolbwynt ar gyfer arloesedd a thechnoleg sydd mor bwysig ar gyfer y dyfodol, nid yn unig ar gyfer gweithgynhyrchu ond yn y sectorau creadigol a digidol hefyd.”
Mae Cynghorau Wrecsam a Sir y Fflint wedi chwarae rhan amlwg yn yr ymgyrch a dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts: “Mae hwn yn benderfyniad pwysig fydd yn dod â buddsoddiad o hyd at £160 miliwn i Sir y Fflint a Wrecsam dros y deng mlynedd nesaf.
“Mae’n deyrnged i’r ffordd y mae ein busnesau a’n harweinwyr gwleidyddol ar lefel leol a chenedlaethol wedi gweithio gyda’i gilydd i gyflwyno achos cwbl gadarn ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru fel Parth Buddsoddi.
“Bydd y buddsoddiad enfawr hwn yn helpu i gryfhau ein busnesau allweddol, llawer ohonynt yn enwau cyfarwydd iawn, ac yn dod â chwmnïau newydd i mewn gyda phopeth y mae hynny’n ei olygu i swyddi a ffyniant.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Wrecsam, Mark Pritchard: “Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Ogledd-ddwyrain Cymru ac yn tystio i’r ffordd y mae’r rhanbarth wedi dod at ei gilydd i gyflwyno’r achos dros y statws hanfodol hwn.
“Rydym wedi cael cefnogaeth wych gan Lywodraeth Cymru ac mae’n wobr haeddiannol iawn i ardal sy’n gartref i gymaint o entrepreneuriaid dawnus a chwmnïau arloesol sydd wedi cynorthwyo i yrru’r ymgyrch hon yn ei blaen.
“Rydym hefyd wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol wych gan ein Haelodau Seneddol a’n Haelodau Senedd Cymru ynghyd â Chyngor Busnes Gogledd Cymru a chymaint o fusnesau a sefydliadau blaenllaw. Gyda’n gilydd, rydym wedi cyflwyno achos cryf a llwyddiannus iawn dros y Parth buddsoddi hwn yng Ngogledd-ddwyrain Cymru.”