Mae Uchelgais Gogledd Cymru a Grŵp Llandrillo Menai wedi arwyddo cytundeb cyllid gwerth £4.43m a fydd yn datgloi cyfanswm o £19m o fuddsoddiad mewn hyfforddiant a chyfleusterau trosglwyddo gwybodaeth ar draws pum lleoliad yng Ngogledd Cymru.
Bydd y prosiect Rhwydwaith Talent Twristiaeth, a gymeradwywyd gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru y llynedd, yn gweld rhwydwaith o gyfleusterau o’r radd flaenaf yn dod yn angorfeydd ar gyfer darparu prentisiaethau a chymorth sgiliau arbenigol, ymgysylltu helaeth â busnesau bach a chanolig a microfusnesau. Yn ogystal, bydd rhaglen gynhwysfawr o allgymorth ysgolion ar draws y rhanbarth.
Trwy weithio mewn partneriaeth, ac effaith gallugol £4.43m o Gynllun Twf Gogledd Cymru, bydd y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn trawsnewid y dull o ddatblygu sgiliau twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at weledigaeth partneriaid y prosiect o leoli Gogledd Cymru ar flaen sector twristiaeth cynaliadwy a lletygarwch sy’n arloesol.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Grŵp Llandrillo Menai mewn cydweithrediad â busnesau ‘Lloeren’ — gan gynnwys Portmeirion a Zip World, dau Lloeren ychwanegol i’w penodi yn ddiweddarach eleni, a phartneriaethau strategol gyda Snowdonia Hospitality and Leisure a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nod y prosiect yw darparu hyfforddiant wedi'i dargedu, arloesedd a chymorth busnes, gwella safonau ansawdd, a hyrwyddo twristiaeth a lletygarwch fel llwybr gyrfa credadwy o ddewis ar draws cymunedau Gogledd Cymru.
Dywedodd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol, Grŵp Llandrillo Menai:
"Rydym wrth ein bodd bod cytundeb ariannu’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth bellach wedi’i arwyddo. Mae'r prosiect yn deillio o bartneriaeth anhygoel a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd, ansawdd a hynodrwydd sector twristiaeth a lletygarwch Gogledd Cymru. Mae cyllid y Cynllun Twf wedi ein galluogi ni i ddatgloi arian sylweddol yn y sector preifat a chyhoeddus ac rwy'n hyderus y bydd yn gatalydd ar gyfer twf cynaliadwy’r sector.
“Bydd y prosiect yn hybu ansawdd, yn creu swyddi, ac yn codi proffil gyrfaoedd yn y sector ar draws y gogledd. Rwy'n credu bod y model rydym wedi'i ddatblygu yma, sy'n seiliedig ar weithio mewn partneriaeth, yn rhywbeth y mae modd ei ailadrodd mewn sectorau eraill wrth i ni i gyd geisio diwallu'r anghenion sgiliau sy'n wynebu economi Gogledd Cymru heddiw ac i'r dyfodol.”
Y Cynghorydd Charlie McCoubrey, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yw Aelod Arweiniol y Rhaglen Amaeth a Thwristiaeth ar y Bwrdd Uchelgais Economaidd, meddai:
“Roedden ni’n falch o gymeradwyo'r achos busnes llawn, a gweld y cytundeb ariannu dilynol wedi’i arwyddo, ar gyfer y prosiect arloesol hwn - y cyntaf o’i fath yn y DU. Mae'n gam pwysig ac yn un fydd yn cyfrannu at ddatblygu economi sylfaen fwy gwydn yn y rhanbarth. Bydd yn manteisio ar gyfleoedd gyrfa ym maes twristiaeth ac yn ein helpu ni i wneud y gorau o'n diwylliant, ein hamgylchedd a'n tirwedd mewn ffordd gynaliadwy.
"Mae'r Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn fuddsoddiad gwerth £19m mewn seilwaith addysg a hyfforddiant ar gyfer sector sy'n rhan mor bwysig o'n heconomi. Bydd tua 100 o fusnesau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth a lletygarwch ar draws y rhanbarth yn elwa trwy uwchsgilio’r gweithlu, a bydd yn creu 68 o swyddi newydd a chefnogi 250 o brentisiaethau."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
"Bydd prosiect y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn gwella'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli yn sector twristiaeth Gogledd Cymru. Bydd hefyd yn sefydlu cyfleusterau hyfforddi arbenigol yn y rhanbarth fydd yn rhoi sylfaen gynaliadwy y gall yr ardal elwa ohoni am flynyddoedd i ddod.
"Gyda chefnogaeth gwerth £120m gan Lywodraeth Cymru, bydd Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael effaith sylweddol ar economi’r ardal."
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffith:
"Mae twristiaeth yn gwbl hanfodol i economi Gogledd Cymru, gyda miliynau o ymwelwyr yn dewis ymweld â'r rhan brydferth hon o Gymru. Bydd y prosiect yn cynnig hyfforddiant wedi’i dargedu fydd yn galluogi llawer mwy o bobl i ddysgu sgiliau newydd a datblygu gyrfaoedd da yn y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae’n wych gweld buddsoddiad Llywodraeth y DU yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru yn cyfrannu at ein nod o dyfu’r economi.”
Mae'r model ar gyfer y prosiect yn adlewyrchu dulliau arloesol o Ewrop, y tro cyntaf i hyn ddigwydd yn y DU.
Bydd canolfan hyfforddi ar gampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos, a ariennir yn rhannol gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - yn amodol ar gymeradwyaeth achos busnes llawn, yn cysylltu â chyfleusterau hyfforddi arbenigol ar safleoedd Lloeren a bydd yn cael ei gefnogi gan y gefnogaeth hyfforddi gofleidiol lawn a ddarperir gan Grŵp Llandrillo Menai.
Bydd hyn yn cael ei danategu gan ymgysylltiad cynhwysfawr gydag busnes ac ysgolion ar draws Gogledd Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd addysgu a dysgu pwrpasol yn cael eu datblygu a'u darparu dros gyfnod y prosiect er mwyn diwallu anghenion y sector heddiw ac i'r dyfodol.
Wedi'i lywio gan waith ymgysylltu sydd eisoes wedi ei gynnal wrth ddatblygu'r prosiect, bydd cefnogaeth sgiliau ac arloesi’r Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn canolbwyntio ar themâu allweddol sy'n ganolog i ddiogelu'r sector twristiaeth a lletygarwch yn y dyfodol. Mae'r themâu hyn yn cynnwys digideiddio, cynaliadwyedd amgylcheddol, iaith a diwylliant. Mae'r ymgysylltu hwn hefyd yn golygu bod mwy o bartneriaid yn y sector preifat yn debygol o ddod yn rhan o bartneriaeth y Rhwydwaith Talent Twristiaeth yn fuan.