Mae'r Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y prosiect Di-wifr Uwch wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn ddiweddar. Cytunodd aelodau'r Bwrdd bod y fenter, sy'n rhan o brosiect ehangach Campysau Cysylltiedig, yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf er mwyn sicrhau cyllid y Cynllun Twf. 

Mae'r prosiect yn cynnig cynllun grant gwerth £19miliwn i helpu busnesau preifat a sefydliadau'r sector cyhoeddus i uwchraddio eu systemau i rhai di-wifr datblygedig, megis safonau diweddaraf Wi-Fi, technolegau rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel, fel LoRaWAN, lloeren a 5G. Gall technolegau di-wifr uwch gefnogi busnesau i wella cynhyrchiant, dod yn fwy effeithlon a chystadleuol. Bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn rhedeg y cynllun dros gyfnod o dair blynedd. Bydd y cam cychwynnol yn canolbwyntio ar gynllunio cyn i gyllid cyfalaf gael ei gyflwyno i sefydliadau cymwys.  

quotation graphic

Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw Is-gadeirydd  Bwrdd Uchelgais Economaidd ac aelod arweiniol y Rhaglen Cysylltedd Digidol. Wrth groesawu'r penderfyniad, dywedodd:

"Mae hwn yn gam pwysig fel rhan o'n hymdrechion i sicrhau bod Gogledd Cymru mewn sefyllfa gref i gymryd rhan mewn arloesi a masnacheiddio technoleg a seilwaith digidol newydd.  

"Ein nod hirdymor yw gweld y rhanbarth yn chwarae rhan flaenllaw yn y sector strategol bwysig yma, sy'n newid sut mae diwydiannau, busnesau a hyd yn oed aelwydydd yn gweithio." 

quotation graphic

Mae Di-wifr Uwch a Champysau Cysylltiedig yn rhan o Raglen Cysylltedd Digidol o dan Gynllun Twf Gogledd Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r heriau cysylltedd yn y rhanbarth. Ar ôl cymeradwyo'r achos busnes amlinellol, nod y prosiect penodol hwn yw cefnogi busnesau a defnyddwyr y sector cyhoeddus ledled Gogledd Cymru i gysylltedd di-wifr cyflym erbyn 2030. Mae disgwyl i'r fenter sbarduno twf economaidd sylweddol, gyda rhagamcan o 130 i 200 o swyddi newydd erbyn 2036, ochr yn ochr â buddsoddiad pellach a ragwelir gan y sector preifat o rhwng £13miliwn ac £20miliwn. 

Mae'r prosiect Di-wifr Uwch yn cefnogi amcanion economaidd cenedlaethol a rhanbarthol, megis Strategaeth Diwifr Uwch y DU yn ogystal â rhai portffolio Uchelgais Gogledd Cymru. Bydd yn rhoi cymorth ariannol i fusnesau, a sefydliadau, mewn ardaloedd allweddol yng Ngogledd Cymru i fabwysiadu rhwydweithiau di-wifr uwch, megis y safonau diweddaraf o Wi-Fi, technolegau rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel, megis LoRaWAN a 5G. Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf ac mae pob achos busnes amlinellol yn cwmpasu'r cyfnod cynllunio ac yn nodi opsiynau sy'n darparu gwerth cyhoeddus yn dilyn adolygiadau manwl.  

Mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn golygu y gall y prosiect symud i ddatblygu Achos Busnes Llawn – y cam olaf yn y broses i sicrhau cyllid y Cynllun Twf cyn y cyfnod gweithredu.