-
Elgan Roberts, Rheolwr Rhaglen Ynni Carbon Isel
Gydag ymrwymiad y DU i gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2050, mae Cymru ar flaen y gad trwy Gynlluniau Ynni Ardaloedd Lleol (LAEPs) arloesol.
Nid glasbrintiau ar gyfer datgarboneiddio yn unig yw'r cynlluniau hyn - maent yn fapiau ffyrdd cydweithredol sy'n cynnwys awdurdodau lleol, cwmnïau ynni a rhanddeiliaid cymunedol i sicrhau dyfodol cynaliadwy, carbon isel. Bydd y cydweithrediad hwn ar draws sectorau yn helpu i sicrhau bod cynlluniau ar draws y rhanbarth yn cyd-fynd â'i gilydd, a fydd wedyn yn gwella'r ddarpariaeth o gyfleoedd sero net.
Mae LAEPs yn strategaethau wedi'u teilwra, wedi'u cynllunio i arwain pob un o awdurdodau lleol Cymru tuag at ddatgarboneiddio. Maent yn cynnig fframwaith ar gyfer sut y gall siroedd drosglwyddo i economi sero net, yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, tra yn ystyried nodweddion unigryw pob ardal. Er bod rhai ardaloedd yn gyfoethog o ran gweithgarwch diwydiannol, mae eraill yn wledig yn bennaf, sy'n golygu bod anghenion ynni ac atebion posib yn amrywio'n fawr.
Yn y gogledd, datblygwyd chwe LAEP, un ar gyfer pob awdurdod lleol. A dweud y gwir, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gael LAEP ym mhob un o'i siroedd ac felly ffurfio LAEP cenedlaethol cadarn. Mae'r cynlluniau'n darparu gweledigaeth glir ar gyfer cyflawni sero net trwy dargedu sectorau penodol fel cynhyrchu ynni, cludiant ac effeithlonrwydd adeiladau, hyn oll wrth ystyried y cryfderau rhanbarthol mewn ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt a morol.
Mae'r daith ddatgarboneiddio yn amrywio i bob awdurdod lleol. Mewn rhanbarthau diwydiannol fel Sir y Fflint, efallai y canolbwyntir ar leihau allyriadau o weithgynhyrchu a gwella effeithlonrwydd ynni safleoedd diwydiannol. Yn y cyfamser, gallai ardaloedd gwledig fel Gwynedd a Môn ganolbwyntio mwy ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy trwy ffermydd gwynt ac ynni morol, gan harneisio adnoddau naturiol y rhanbarth.
Mae'r cynlluniau hyn yn ein galluogi i ystyried nodweddion ac anghenion lleol pob ardal. P'un a yw'n gwella insiwleiddio adeiladau, yn cefnogi'r newid i gerbydau trydan, neu'n buddsoddi mewn is-adeiledd ynni adnewyddadwy, mae pob cynllun yn darparu dull pwrpasol.
Un o nodweddion yr LAEPs yn y gogledd yw'r lefel o gydweithio wrth eu creu. Mae awdurdodau lleol, rhwydweithiau ynni fel Scottish Power a Wales & West Utilities, datblygwyr mawr, cymdeithasau tai, a grwpiau cymunedol i gyd wedi chwarae rhan wrth lunio'r cynlluniau hyn.
Trwy gyfres o weithdai, mae'r rhanddeiliaid allweddol hyn wedi dod at ei gilydd i sicrhau bod y cynlluniau'n gadarn ac yn ymarferol.
Mae'r broses o gydweithio wedi creu rhwydwaith cryf o bobl sydd bellach yn deall anghenion a heriau ei gilydd. Bydd y rhwydwaith hwn yn hanfodol ar gyfer cyflawni'r cynlluniau wrth i ni symud o gynllunio i weithredu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r cydweithio hwn, ariannu datblygiad LAEPs a darparu arbenigedd technegol trwy ei phartneriaethau ag asiantaethau fel yr Energy Systems Catapult. Mae'r ymdrechion hyn yn gosod y gogledd yn arweinydd cenedlaethol mewn cynllunio ynni lleol.
Er gwaethaf y cyffro o amgylch LAEPs, mae heriau'n bodoli ochr yn ochr â'r cyfleoedd. Rhaid i allu'r awdurdodau lleol a'r rhanddeiliaid i weithredu'r cynlluniau hyn tra'n cydbwyso cyfrifoldebau presennol gael ei oresgyn er mwyn elwa ar fuddion yr LAEPs - megis mwy o swyddi lleol, cyfleoedd cadwyni cyflenwi a denu buddsoddiad.
Mae angen gwneud y gwaith, a bydd angen adnoddau sylweddol. Ond mae'r cynlluniau'n helpu i adnabod ble mae'r enillion cyflym, fel y gallwn ddechrau gwneud cynnydd nawr, yn hytrach nag aros a gadael i'r heriau bentyrru.
Bydd sicrhau'r cyllid angenrheidiol, boed drwy fuddsoddiad cyhoeddus neu bartneriaethau preifat, yn hanfodol. Mae Llywodraeth Cymru, o'i rhan hi, wedi ymrwymo i gydgasglu cynlluniau lleol yn fframwaith cenedlaethol ehangach, gan sicrhau bod heriau cyffredin yn cael sylw ar y lefelau uchaf. Mae'r dull cydgysylltiedig hwn yn anelu at wella sut mae polisi, buddsoddiad ac adnoddau yn cael eu cynllunio a'u gweithredu'n lleol a gallai ddatgloi cyfleoedd ariannu newydd a chynorthwyo Cymru i barhau'n gystadleuol wrth ddenu buddsoddiad gwyrdd.
Er bod yr LAEPs yn darparu gweledigaeth strategol, y cam nesaf yw rhoi'r cynlluniau hyn ar waith. Mae llawer o'r cyfrifoldeb dros gyflawni nodau datgarboneiddio yn syrthio ar y gymuned ehangach, preswylwyr, busnesau a datblygwyr. Er enghraifft, bydd angen i unigolion ôl-osod eu cartrefi i wella effeithlonrwydd ynni, a bydd angen i systemau trafnidiaeth lleol symud tuag at gerbydau trydan neu gerbydau allyriadau isel.
Er eu bod yn ganolog, dim ond arwain y newid hwn y gall awdurdodau lleol ei wneud. Yr her yw bod y rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y cynlluniau hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol yr awdurdod lleol. Ond drwy greu'r map ffordd clir hwn a dod â phawb at ei gilydd, gallwn ddylanwadu ar y newidiadau sydd angen digwydd.