-
by Stuart Whitfield, Digital Programme Manager
Mae'r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol (DSP), prosiect blaenllaw Cynllun Twf Gogledd Cymru, dan arweiniad Prifysgol Bangor, yn prysur sefydlu ei hun fel canolbwynt byd-eang ar gyfer ymchwil ac arloesi telathrebu uwch.
Wedi'i lleoli yn yr Ysgol Gyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor, sydd hefyd yn cynnwys arweinwyr byd-eang mewn technolegau fel AI, Nanotechnoleg a Pheirianneg Niwclear, mae'r Ganolfan wedi dod yn ysgogydd y tu ôl i ddatblygiadau technolegol mewn Prosesu Signalau Digidol, sy'n elfen hanfodol yn yr economi ddigidol. Mae ei gyfraniadau i ymchwil telathrebu a'i effaith ar economïau rhanbarthol a byd-eang yn ei wneud yn brosiect o bwysigrwydd rhanbarthol a chenedlaethol.
Yn 2020, pan gyflwynodd Prifysgol Bangor ei chynnig fel rhan o Bortffolio Cynllun Twf Gogledd Cymru, wedi ei arwain gan Uchelgais Gogledd Cymru, i Lywodraethau'r DU a Chymru, y nod oedd trawsnewid y gogledd yn ganolfan ragoriaeth mewn ymchwil telathrebu uwch. Gweledigaeth y Ganolfan yw dod yn arweinydd byd-eang mewn technolegau cyfathrebu digidol ac mae buddsoddiad y Cynllun Twf wedi'i gyfeirio at gynyddu'r ystod o adnoddau ymchwil o'r radd flaenaf i gyflawni'r uchelgais hwnnw.
Ystyriwyd y prosiect fel cyfle allweddol i ddatblygu galluoedd y rhanbarth mewn ymchwil a datblygu DSP. O ffonau symudol a gliniaduron i geir, awyrennau a ffatrïoedd, mae technoleg DSP yn hwyluso cyfathrebu effeithlon a diogel rhwng dyfeisiau ac mae'n rhan annatod o fywyd pob dydd. Mae'n caniatáu i fwy o ddata gael ei drosglwyddo trwy rwydweithiau, gan wneud y defnydd gorau o isadeiledd rhwydwaith sydd yn aml yn ddrud iawn.
Gan gydnabod hyn, nododd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ymchwil telathrebu fel maes twf pwysig i greu swyddi hirdymor a ffyniant economaidd, sy'n cyd-fynd â nodau datblygu rhanbarthol a chenedlaethol. Dyrannwyd buddsoddiad y Cynllun Twf i adeiladu ar y cryfder rhanbarthol hwn.
Heddiw, mae'r Ganolfan DSP yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ac yn fyd-eang am ei gwaith arloesol ym maes telathrebu, yn enwedig ym meysydd technoleg 5G ac, wrth edrych ymlaen, 6G.
Un o'r meysydd ymchwil mwyaf cyffrous sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan y Ganolfan DSP yw cydgyfeirio rhwydweithiau ffeibr optig a radio. Nid yw hyn yn rhywbeth y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ymwybodol ohono, ond mae peiriannu gwahanol rwydweithiau i gydweithio'n ddi-dor fel bod ein defnydd o'r rhyngrwyd yn gyflym ac yn ddibynadwy yn rhan hanfodol o ddarparu rhwydweithiau modern - yn enwedig gan fod mwy ohonom yn defnyddio mwy a mwy o ddata trwy ffonau symudol.
Wrth i rwydweithiau ffeibr optig ddod yn fwy cyffredin mewn cartrefi a busnesau, mae'r her o integreiddio'r rhwydweithiau hyn gyda dulliau cyfathrebu digidol eraill ar gyfer rhwydweithiau 5G/6G a thu hwnt, yn cyflwyno maes enfawr o botensial o ran twf. Mae'r Ganolfan yn arloesi mewn ymchwil sy'n anelu at wneud trosglwyddo gwybodaeth rhwng gwahanol fformatau trosglwyddo yn fwy di-dor a dibynadwy, gan wella popeth o gysylltiadau cebl llong danfor rhwng cyfandiroedd i'r rhwydweithiau symudol 4G a 5G yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd.
Mae'r Ganolfan hefyd yn arloesi gydag ymchwil i Synhwyro Ffeibr Optig wedi'i Ddosbarthu ('Distributed Fibre Optic Sensing') – gan ddefnyddio ceblau ffeibr optig sy'n cario data fel dyfeisiau synhwyro i fonitro newidiadau amgylcheddol mewn pwysedd, symudiad a sain dros bellteroedd hir. Mae Delweddu Data, Realiti Rhithwir ac Estynedig yn seiliedig ar 5G, yn ymchwil arall y canolbwyntir arni ar hyn o bryd, gan ddatblygu technolegau sy'n caniatáu prosesu a chyflwyno data mewn amser real i alluogi gwneud penderfyniadau ar unwaith mewn meysydd fel gweithgynhyrchu uwch a gofal iechyd. Er bod y Ganolfan yn arloesi gyda thechnolegau gan ddefnyddio amleddau radio, fel 5G, mae hefyd yn datblygu Cyfathrebu Golau Gweladwy Cyflymder Uchel ('High Speed Visible Light Communications' neu Li-Fi), gan ddefnyddio systemau goleuo presennol i drosglwyddo data a chyflawni synhwyro.
Maes ymchwil allweddol cynyddol bwysig arall yn y Ganolfan DSP yw diogelwch data haen ffisegol. Mae'r Ganolfan yn datblygu technegau arloesol i ymgorffori mesurau diogelwch gan ddefnyddio priodweddau deinamig sianeli trosglwyddo ffisegol yn ogystal ag amgryptio data a drosglwyddir trwyddynt, gan wella gwytnwch systemau ar draws amrywiol ddiwydiannau. Mae'r ymchwil hon yn chwyldroi sut rydym yn meddwl am ddiogelwch data, gan sicrhau bod cyfathrebiadau digidol yn parhau i fod yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag unrhyw fygythiadau.
Diffinnir llwyddiant y Ganolfan gan ei gallu i gynhyrchu allbynnau ymchwil gwerth uchel y mae cymunedau Ymchwil a Datblygu a diwydiannau mawr yn chwilio amdanynt ledled y byd, gan gynnwys gweithredwyr rhwydweithiau symudol a gweithgynhyrchwyr offer. Maent yn chwilio'n gyson am ffyrdd o wella effeithlonrwydd, gwytnwch a diogelwch eu rhwydweithiau, ac mae ymchwil y Ganolfan DSP yn helpu i yrru'r gwelliannau hynny.
Wrth i'r galw am rwydweithiau cyflymach, mwy diogel ac effeithlon o ran ynni gynyddu, mae'r Ganolfan DSP wedi gallu lleoli ei hun ar flaen y chwyldro technolegol hwn.
Trwy weithio mor agos gyda gweithredwyr rhwydweithiau symudol, mae'r Ganolfan nid yn unig yn siapio dyfodol telathrebu ond hefyd, yn hollbwysig, yn cyfrannu at fasnacheiddio ymchwil arloesol. Rydym yn awyddus i groesawu mwy o bartneriaid o'r diwydiant i'r Ganolfan i weld y cyfleusterau arddangos newydd gwych ac archwilio'r potensial ar gyfer cydweithio gyda'r tîm ymchwil.
Gellir teimlo effaith y Ganolfan DSP ar raddfa ranbarthol a byd-eang. Yn y gogledd, mae busnesau ar draws gwahanol sectorau mewn sefyllfa i elwa o'r dechnoleg sy'n cael ei datblygu yn y Ganolfan, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. P'un ai trwy weithredu'r datblygiadau hyn yn uniongyrchol yn eu diwydiannau neu drwy eu hecsbloetio'n fasnachol, mae gan gwmnïau yn y rhanbarth y potensial i fod ar flaen y gad yn y farchnad fyd-eang ar gyfer technolegau DSP. Mae hyn, yn ei dro, yn creu cyfleoedd ar gyfer creu swyddi, twf economaidd ac ehangu'r gadwyn gyflenwi yn y rhanbarth.
Ar raddfa ehangach, mae allbynnau ymchwil y Ganolfan yn gyrru arloesedd mewn diwydiannau byd-eang allweddol fel telathrebu, awyrofod, amddiffyn a gofal iechyd. Mae gan y gallu i wella effeithlonrwydd, diogelwch a gwytnwch rhwydweithiau digidol oblygiadau pellgyrhaeddol, o wella rhwydweithiau ffonau symudol i ddiogelu data yn y diwydiannau mwyaf sensitif.
Yn ogystal â'i hymchwil, mae'r Ganolfan DSP yn ganolbwynt hyfforddi blaenllaw ar gyfer y genhedlaeth nesaf o arbenigwyr telathrebu. Mae'r brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi, o efrydiaethau PhD i raglenni israddedig a Meistr, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ragori ym maes DSP. Mae'r Ganolfan hefyd yn cynnal ysgolion haf blynyddol i ymchwilwyr o bob rhan o Ewrop. Mae'r safon fyd-eang hon o hyfforddiant a chyfleusterau yn darparu cyfleoedd nid yn unig i ymchwilwyr rhyngwladol ond hefyd i fyfyrwyr o'r gogledd sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn diwydiant sy'n tyfu.
Wrth i'r Ganolfan barhau i gynhyrchu ymchwil arloesol, heb os, bydd yn denu buddsoddiad, partneriaethau a chyfleoedd pellach i gydweithio gyda mentrau byd-eang blaenllaw a busnesau rhanbarthol fel ei gilydd.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn ystyried y prosiect fel buddsoddiad hirdymor, nid yn unig i'r brifysgol ond i'r rhanbarth cyfan. Mae creu swyddi uniongyrchol o fewn y brifysgol yn un budd uniongyrchol wrth gwrs, ond mae disgwyl i'r Ganolfan hefyd greu swyddi anuniongyrchol ar draws y gogledd drwy yrru arloesedd a thwf mewn busnesau lleol.