Mae nifer o ffyrdd o gysylltu gyda Uchelgais Gogledd Cymru, weler y manylion isod.

Rydym bob amser yn gwerthfawrogi derbyn canmoliaeth am wasanaeth da gan Uchelgais Gogledd Cymru, neu os ydych am ganmol ein staff am wneud gwaith da. Cysylltwch a ni i roi gwybod i ni. 

Mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ymdrin yn effeithiol ag unrhyw bryderon neu gwynion sydd gennych am ein gwasanaethau. Ein nod yw rhoi eglurhad i unrhyw faterion yr ydych yn ansicr yn eu cylch. Byddwn yn cywiro unrhyw gamgymeriadau y gallwn fod wedi'u gwneud, os yw hynny'n bosib.

Os ydym wedi gwneud rhywbeth o'i le, fe wnawn ymddiheuro, a lle bynnag bo hynny'n bosib, byddwn yn ceisio cywiro pethau i chi. Rydym eisiau dysgu o'n camgymeriadau a defnyddio'r wybodaeth a gawn o gwynion i wella ein gwasanaethau.

Rydym wedi datblygu'r weithdrefn gwynion hon fel ei bod yn rhoi pwyslais ar ddysgu gwersi i'n helpu i adnabod pryderon pobl y rhanbarth a gwella ein gwasanaethau.

Mae ein Polisi Cwynion yn egluro beth i'w wneud os oes gennych gŵyn neu bryder am Uchelgais Gogledd Cymru neu ein gweithgareddau. 

O bryd i'w gilydd bydd Uchelgais Gogledd Cymru yn ymgynghori gyda pobl leol ar faterion eang sy'n effeithio'r rhanbarth, bydd manylion ymgynghoriadau ar gael yma.