Prosiect:

Cyn Ysbyty Gogledd Cymru, Sir Ddinbych

Trosolwg:

Bydd cynlluniau ar gyfer datblygu Cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych yn ei weld yn dod yn rhan ganolog o'r gymuned unwaith eto, gan ddod â'r safle 53 erw yn ôl i ddefnydd, gan ddarparu cyfleoedd cyflogaeth ac anheddau newydd i bobl leol. Mae cynigion yn cynnwys adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2* yn 34 o fflatiau, 300 o gartrefi newydd a mannau gwyrdd, cyfleuster sgiliau a hyfforddiant yn ogystal â dros 1,000m2 o ofod masnachol.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Jones Bros Ruthin Development Holdings Ltd i ddatblygu'r prosiect hwn.

Prif Noddwr:

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £10 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 50 o swyddi newydd i'r rhanbarth

Safleoedd Busnes

Datblygu 1,100m2 o dir a fydd yn addas i fusnesau 

Targedau Buddsoddi

£7m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£93m

Sector Breifat

£100m

Cyfanswm Buddosddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu Cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam07.
Gweithedru a Monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Huw Jones Cadeirydd, Jones Bros Ruthin Development Holdings Ltd
  • David Mathews Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo