Ar ôl cael ei benodi’n ddiweddar yn, mae Hedd Vaughan-Evans yn arwain y gwaith o chwilio am arweinydd rhaglen brofiadol i lenwi ei swydd flaenorol a gyrru ymlaen ar gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Daw’r broses o recriwtio i rôl Pennaeth Cyflenwi y Swyddfa Rheoli Portffolio ar adeg allweddol i Uchelgais Gogledd Cymru wrth i’r rhaglenni a’r prosiectau o fewn y Cynllun Twf symud ymlaen ar gyflymder. Mae’r rôl, a oedd yn flaenorol yn Bennaeth Gweithrediadau, wedi’i hail-fframio i roi mwy o ffocws ar gyflawni ar adeg hanfodol i’r Cynllun Twf.
Bydd y Pennaeth Cyflenwi y Swyddfa Rheoli Portffolio newydd yn chwarae rhan allweddol wrth arwain gweithrediadau o ddydd i ddydd ar draws portffolio rhanbarthol cymhleth – a sicrhau cysondeb â gweledigaeth hirdymor y rhanbarth ar gyfer llesiant economaidd. Gan weithio’n agos gydag uwch arweinwyr, partneriaid a rhanddeiliaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithredu fel llysgennad dros Uchelgais Gogledd Cymru, gan feithrin perthnasoedd cryf a chyfrannu at arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad.
Daeth Hedd yn Gyfarwyddwr Portffolio yn ôl ym mis Mawrth, ac mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am arwain cyflawni llwyddiannus rhaglenni a phrosiectau’r Cynllun Twf. Gan weithio’n agos gyda phartneriaid ar draws llywodraeth leol, addysg uwch a’r sector preifat, mae ei rôl yn canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd a chreu cyfleoedd hirdymor i gymunedau a busnesau ar draws Gogledd Cymru.
-
Wrth sôn am recriwtio i swydd Pennaeth Cyflenwi y Swyddfa Rheoli Portffolio , dywedodd Hedd:
“Mae hon yn rôl hanfodol ac yn gyfle i arweinydd profiadol a hyderus drosi uchelgais strategol yn cyflawni effeithiol, gan helpu i sicrhau buddion parhaol, megis twf economaidd a swyddi o werth uchel.
“Rydym yn chwilio am arweinydd portffolio neu raglen brofiadol sydd ag ymrwymiad i’r safonau uchaf o wasanaeth cyhoeddus a llywodraethu. Rhaid bod ganddynt hanes cadarn o gyflawni rhaglenni neu bortffolios cymhleth, yn ddelfrydol o fewn amgylchedd aml-randdeiliad neu’r sector cyhoeddus. Yn anad dim, rhaid i’r unigolyn hwnnw gael ei ysgogi gan y cyfle i helpu i gyflawni buddion parhaol i Ogledd Cymru a’i chymunedau.”
Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn cael ei chefnogi gan £240m o gyllid Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gyda tharged o greu 4,000 o swyddi newydd a sicrhau buddsoddiad o £1 biliwn i economi’r rhanbarth. Wedi’i chyflawni drwy Uchelgais Gogledd Cymru, mae’r portffolio’n dod â phartneriaid o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat ynghyd i gefnogi prosiectau mewn diwydiannau twf gan gynnwys ynni carbon isel, cysylltedd digidol, tir ac eiddo, gweithgynhyrchu uwch, a bwyd-amaeth a thwristiaeth.