Mae cyfres o fentrau newydd bellach wedi'u lansio i wella cysylltedd symudol ledled gogledd Cymru, gan helpu i fynd i'r afael â signal 4G gwael mewn ardaloedd, cynyddu capasiti a chefnogi gwasanaethau symudol mwy dibynadwy.

Bydd y Prosiect 4G+, dan arweiniad Uchelgais Gogledd Cymru, yn mynd i'r afael â bylchau mewn signal symudol a chapasiti rhwydwaith, gan ganolbwyntio'n benodol ar safleoedd masnachol allweddol, coridorau trafnidiaeth strategol a lleoliadau lle mae cysylltedd gwael yn cyfyngu ar dwf. Gan weithio gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus, darparwyr telathrebu, perchnogion seilwaith a phartneriaid eraill, nod y prosiect yw cyflymu’r buddsoddiad mewn seilwaith symudol wrth osod y sylfeini ar gyfer gwasanaethau 5G yn y dyfodol.

quotation graphic

Meddai Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Cysylltedd Digidol, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae cysylltedd symudol dibynadwy yn hanfodol i sut mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn gweithredu busnes. Er bod rhai rhannau o ogledd Cymru yn cael gwasanaeth da, mae yna lawer o ardaloedd o hyd lle mae signal a pherfformiad rhwydwaith gwael yn dal busnesau, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus yn ôl.

"Mae'r Prosiect 4G+ yn ymwneud â dod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i fynd i'r afael â'r heriau hynny, gan wneud gwell defnydd o'r seilwaith presennol a chreu'r amodau ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Trwy weithio ar y cyd, gallwn wella cysylltedd symudol a helpu i sicrhau bod gan y rhanbarth y rhwydweithiau y mae arni eu hangen i gefnogi twf economaidd cynaliadwy."

quotation graphic

Mae elfennau allweddol y Prosiect 4G+ yn cynnwys cefnogi Fforwm Cysylltedd Digidol Rhanbarthol sy'n cyfarfod bob chwarter; datblygu Cytundebau Mynediad Agored;  Cynllun Grant Gwella Asedau’r Sector Cyhoeddus; a Chynllun Grant Diwydiant.  Mae'r gyfres hon o ymyriadau yn mynd i'r afael â heriau penodol sy'n gysylltiedig â datblygu rhwydweithiau telathrebu.

quotation graphic

Meddai Stuart Whitfield, Rheolwr Rhaglen Cysylltedd Digidol, Uchelgais Gogledd Cymru:

"Mae Uchelgais Gogledd Cymru  yn cydnabod pa mor hanfodol yw cysylltedd symudol yn awr ac y bydd yn parhau i fod yn y dyfodol wrth i'r dechnoleg a'r galw gan ddefnyddwyr barhau i ddatblygu. Mae'r Prosiect 4G + yn sefydlu safle'r rhanbarth fel rhywle a all ddenu buddsoddiad gan y diwydiant a hwyluso gweithio mewn partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat sy'n angenrheidiol i gyflawni manteision tymor hir.

quotation graphic