Mae arolwg diweddar yn dangos bod 68% o fusnesau Gogledd Cymru yn cael trafferthion recriwtio, gyda disgwyl i'r pwysau hwn gynyddu gyda’r nifer o gynlluniau seilwaith mawr sydd ar y gweill. 

Yn ôl adroddiad Sgiliau a Chyflogadwyedd Gogledd Cymru gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol, yn ogystal â thrafferthion recriwtio, mae 56% o fusnesau yn ei chael yn anodd i uwchsgilio a hyfforddi eu staff.

I lawer o gyflogwr fodd bynnag, un o’r prif heriau yw gwybod lle i ddod o hyd i gefnogaeth a pha raglenni sy’n addas ar gyfer eu busnes nhw. Dim ond tri mewn 10 cyflogwyr yng Ngogledd Cymru ddywedodd eu bod yn gwybod ble i gael gwybodaeth am hyfforddiant, datblygu a ffynonellau ariannu.  Gyda hyn yn gefnlen, mae cyflogwyr yn cael eu hannog i ddod i ddigwyddiad arbennig yn Llandudno, ble bydd cyfle i gysylltu'n uniongyrchol â sefydliadau sy'n cynnig cymorth ac adnoddau ymarferol.

Bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS, yn annerch y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Iau 12 Tachwedd. Bydd y mynychwyr hefyd yn clywed gan gyflogwyr, yn cynnwys Great British Energy-Nuclear (GBE-N), Rolls-Royce SMR a chwmni peirianneg sifil, Griffiths, am arfer dda a sut maen nhw yn  datblygu talent y dyfodol drwy brentisiaethau.  Yn ogystal bydd cyfle i glywed yn uniongyrchol am brofiadau pobl ifanc sydd wedi dilyn llwybrau gwahanol i gyflogaeth.

Bydd y digwyddiad hefyd yn nodi lansiad Cynllun Sgiliau Gogledd Cymru 2026-2029 ac yn tynnu sylw at rôl Partneriaeth Sgiliau Ranbarthol Gogledd Cymru wrth gefnogi busnesau a datblygu'r gweithlu ar draws y rhanbarth.

quotation graphic

Dywedodd David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru:

“Rydym yn gwybod bod cyflogwyr gogledd Cymru yn wynebu heriau go iawn o ran recriwtio, cadw staff a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw – a bod ceisio dod o hyd i gefnogaeth yr un mor anodd. Nod y digwyddiad hwn felly yw gwneud hynny’n haws, yn ogystal â lansio ein Cynllun Sgiliau newydd, sy’n dangos sut y gallwn ni gyd chwarae rhan yn y gwaith o lunio’r gweithlu sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn dod â’r sefydliadau perthnasol at ei gilydd mewn un lle, fel bod cyflogwyr o bob sector yn gallu dod â’u problemau gyda nhw, siarad â’r bobl berthnasol a dod o hyd i atebion ymarferol. Os ydynt yn cael trafferth recriwtio, yn chwilio am ffyrdd o gadw a datblygu eu gweithlu, neu eisiau gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael, rydw i am annog cyflogwyr i ddod draw a gweld sut i gymryd rhan.”

quotation graphic

Mae’r digwyddiad ar gyfer unrhyw un sydd â chyfrifoldeb neu ddylanwad dros weithlu eu sefydliad, gyda chyfle i siarad yn uniongyrchol ag arbenigwyr sy’n gallu cynnig cyngor, cyfeirio cyflogwyr at gymorth perthnasol a darparu cefnogaeth pellach.

Gall cyflogwyr gael rhagor o wybodaeth a chadw lle yn y digwyddiad drwy'r ddolen isod.