Mae cynlluniau i adleoli Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor wedi symud gam yn nes ar ôl i Uchelgais Gogledd Cymru gymeradwyo achos busnes llawn y prosiect. Mae'r penderfyniad yn galluogi'r Brifysgol i symud ymlaen gyda cham nesaf y datblygiad.

Bydd y cynllun, sy'n werth £20.85 miliwn, yn trawsnewid hen safle rhestredig Gradd II Ysgol Friars ym Mangor i'r hyn a elwir yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Mae'r cynlluniau'n cynnwys datblygu'r adeilad hanesyddol, adeiladu estyniad newydd modern a chreu mwy na 2,140 metr sgwâr o ofod addysgu a menter o ansawdd uchel. 

Mae'r cyllid ar gyfer y prosiect yn cynnwys £7.44 miliwn gan Uchelgais Gogledd Cymru o Gynllun Twf Gogledd Cymru, ynghyd â rhodd o £10.5 miliwn gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay a buddsoddiad blaenorol o fwy na £2.5 miliwn yn y safle gan y Brifysgol. 

Rhagwelir y bydd y datblygiad yn cefnogi 90 o swyddi newydd, yn cynhyrchu £18 miliwn mewn GYC ychwanegol net ac yn darparu hyd at 2,500 o gymwysterau ychwanegol, datblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant a chyfleoedd uwchsgilio erbyn 2036. Yn ogystal, disgwylir i'r ysgol gefnogi 247 o fusnesau i gael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan Ysgol Fusnes Albert Gubay. 

quotation graphic

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Cadeirydd Uchelgais Gogledd Cymru:

"Dyma un arall o brosiectau pwysig y Cynllun Twf, sy'n gam sylweddol ymlaen yn ein hymdrechion ar y cyd i ddod â manteision hirdymor i gymunedau a busnesau ledled y rhanbarth. Bydd yr ysgol fusnes newydd yn cefnogi sgiliau, swyddi a thwf economaidd, ac mae'n galonogol i weld y cynlluniau'n symud ymlaen tuag at gyflawni gyda phartneriaeth gref yn gweithio y tu ôl iddynt." 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd yr Athro Edmund Burke, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor:

"Rydym yn falch iawn o weld y cynlluniau'n symud ymlaen i sefydlu safle newydd ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay, gan roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol. Ein nod yw creu gofod a fydd yn ganolfan ranbarthol ar gyfer addysg fusnes, datblygu sgiliau, ymchwil a chydweithio â busnes a diwydiant. Diolch i'r gefnogaeth gan Sefydliad Albert Gubay ac Uchelgais Gogledd Cymru, bydd y prosiect yn cyfrannu at uchelgais ehangach i gryfhau cynhyrchiant, cadw graddedigion a gwella gwytnwch busnes ledled y Gogledd." 

quotation graphic
quotation graphic

Dywedodd y Gweinidog dros Fenter, Cysylltedd ac ynni, Adam Price:

“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i brosiect a fydd yn ganolbwynt ar gyfer sgiliau, arloesedd a thwf busnes yng Ngogledd Cymru. 

“Drwy greu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau newydd a helpu busnesau i gysylltu ag arbenigedd, ymchwil a thalent, bydd y prosiect hwn yn cryfhau’r cysylltiadau rhwng addysg a menter ac yn cefnogi twf ar draws y rhanbarth.” 

“Rwy’n falch ein bod, drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru ac ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, yn buddsoddi mewn prosiect a fydd yn creu cyfleoedd i bobl a busnesau, yn cefnogi swyddi o ansawdd uchel ac yn helpu i adeiladu economi gryfach a mwy gwydn ar draws y rhanbarth.” 

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin:

“Mae datblygiad ysgol fusnes Prifysgol Bangor yn gynllun cyffrous a fydd yn cefnogi 90 o swyddi newydd ac yn denu buddsoddiad i’r ddinas. 

“Mae Llywodraeth y DU yn falch o gefnogi’r prosiect hwn drwy ein buddsoddiad yng Nghynllun Twf Gogledd Cymru, gan gyflawni ein haddewid i greu cyfleoedd a thwf economaidd ym mhob rhan o Gymru.” 

quotation graphic
quotation graphic

Ychwanegodd cynrychiolydd o Sefydliad Albert Gubay:  

"Rydym yn credu'n gryf yn y weledigaeth ar gyfer Ysgol Fusnes Albert Gubay fel buddsoddiad trawsnewidiol mewn addysg, menter a thwf economaidd cynhwysol ledled Gogledd Cymru. Rydym yn falch o gefnogi prosiect sydd â'r potensial i ehangu cyfleoedd, cysylltu talent â mentergarwch a chyfrannu at economi ranbarthol gryfach, fwy gwydn." 

quotation graphic

Disgwylir i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn haf 2028.