Yn ddiweddar cynhaliwyd digwyddiad torri’r dywarchen i nodi cychwyn cam nesaf y gwaith ar safle Cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych.

Yn bresennol yn y digwyddiad roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, sy'n arwain y gwaith; Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n cefnogi'r prosiect; a Jones Bros, sydd yn gwneud y gwaith adfer a dymchwel.

Roedd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Uchelgais Gogledd Cymru a staff o Jones Bros sy’n gwneud y gwaith  yn bresennol yn y digwyddiad. 

Fe fydd y cynllun llawn yn ailddatblygu ac yn adfer y safle adfeiliedig 53 erw o faint, drwy adeiladu tai newydd, unedau masnachol a mannau gwyrdd cymunedol. Y nod yw cefnogi adferiad economaidd, gwella mynediad at gyflogaeth o safon a sicrhau bod twf economaidd yn helpu i leihau anghydraddoldeb a thlodi yn yr ardal.  

Mae gwaith i gael gwared ar lystyfiant, darparu mynediad gwell i’r adeiladau ar y safle eisoes wedi cael ei gwblhau i baratoi ar gyfer cam yma’r prosiect, ochr yn ochr â gwaith lliniaru bioamrywiaeth ac ecolegol.

Bydd y gwaith cychwynnol ar ddymchwel ac adfer cychwynnol yn mynd rhagddo rŵan, a bydd disgwyl iddo gymryd hyd at 24 mis.

 Yn 2025, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddarparu bron i £20 miliwn o gyllid grant ar gyfer saith prosiect cyfalaf yn y Rhyl, Prestatyn a Dinbych ac fe ddyrannwyd £3 miliwn i brosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru. 

Yn ogystal â hyn, mae Uchelgais Gogledd Cymru wedi sicrhau £6.94 miliwn bellach ar gyfer y prosiect yn rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraethau’r DU a Chymru, ac fe ddyrannwyd £3m ar gyfer y cam yma o’r gwaith.

quotation graphic

Meddai llefarydd ar ran Jones Bros:

 “Mae’r safle’n cynnwys adeiladau adfeiliedig ac ansefydlog, ac mae ein tîm wedi gwneud y gwaith galluogi cychwynnol yn ogystal â gwaith lliniaru ecolegol gyda gofal manwl.

 “Rydym ni’n falch bod gwaith ar gam un ar fin dechrau, ac rydym ni’n edrych ymlaen at weithio’n agos gyda’r holl bartïon.”

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Hedd Vaughan-Evans, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru:

“Mae’r newyddion bod y gwaith hwn bellach ar y gweill yn hynod gadarnhaol. Mae’r cam hwn o’r gwaith yn hollbwysig er mwyn galluogi adfywiad y safle yn y dyfodol – bydd y prosiect yn trawsnewid y safle, ac rydym yn falch o allu cefnogi’r gwaith pwysig hwn drwy Gynllun Twf Gogledd Cymru.”

quotation graphic
quotation graphic

Meddai Helen White, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych:

 “Mae hon yn garreg filltir bwysig arall yn natblygiad prosiect Cyn Ysbyty Gogledd Cymru. Er bod y prosiect yn un cymhleth, y bwriad yw adnewyddu tirnod hanesyddol amlwg yn Sir Ddinbych, tra’n cefnogi twf yr economi leol.

 “Mae’r rhan yma o’r gwaith i glirio’r safle yn rhan hanfodol o’r prosiect a fydd yn diogelu cadernid yr adeilad rhestredig Gradd II ac yn gwneud y safle’n fwy diogel ar gyfer gwaith y contractwyr o ddydd i ddydd wrth iddynt symud ymlaen â’r prosiect.

 “Fe hoffem atgoffa pawb bod Cyn Ysbyty Gogledd Cymru yn parhau i fod yn safle adeiladu, ac mae mynediad diawdurdod wedi’i wahardd yn sgil y risg iechyd a diogelwch.”

quotation graphic