• Gan Alwen Williams Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru

    Mae gogledd Cymru yn rhanbarth sy'n llawn cyfleoedd, gydag economi amrywiol, o'r grym diwydiannol yn y dwyrain i brosiectau ynni carbon isel arloesol yn y gorllewin. Yr her yn awr yw manteisio ar ein cryfderau ac adeiladu dyfodol nad yw'n ddibynnol ar grantiau gan y llywodraeth, ond yn hytrach yn creu twf economaidd cynaliadwy.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru, sy'n gweithredu fel Cyd-bwyllgor Corfforedig y rhanbarth, yn canolbwyntio ar ddatgloi potensial y rhanbarth trwy fuddsoddi mewn isadeiledd ac arloesedd. Mae'r cyhoeddiad diweddar am Parth Fuddsoddi ar gyfer Sir y Fflint a Wrecsam yn enghraifft wych o dargedu buddsoddiad er mwyn creu'r amodau cywir ar gyfer twf economaidd. Fodd bynnag, i hyn weithio'n effeithiol, rhaid cael cynllun rhanbarthol cadarn i'w gefnogi sy'n ystyried trafnidiaeth, defnydd tir a lles economaidd fel blaenoriaethau cysylltiedig.

Mae trafnidiaeth yn elfen sylfaenol o dwf economaidd ac ar lefel ranbarthol mae'n un o'n cyfrifoldebau statudol fel Cyd-bwyllgor Corfforedig. Felly, rydym wedi llunio Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus tan 14 Ebrill - gan sicrhau bod cysylltiad addas rhwng safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd preswyl. Rhaid i gyfleoedd am swyddi gwerth-uchel mewn gweithgynhyrchu uwch yn y gogledd-ddwyrain fod yn hygyrch i breswylwyr ar draws y rhanbarth. Mae hyn yn fwy na chreu swyddi; mae'n ymwneud â galluogi pobl i fwynhau ansawdd bywyd da, gyda chymunedau cryf ac isadeiledd cefnogol sydd wedi'i gynllunio'n dda.

Wrth edrych tua'r gorllewin, mae gan ogledd Cymru gyfle i sefydlu ei hun fel arweinydd ym maes ynni carbon isel. Mae prosiect Morlais, er enghraifft, yn fenter arloesol a allai arwain at ddatblygu'r rhanbarth yn ganolbwynt ar gyfer ynni llanw. Gyda chefnogaeth buddsoddiad ecwiti gwerth £8 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae'n bosib mai Morlais fydd y cynllun ynni llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi derbyn caniatâd. Gyda'i leoliad perffaith oddi ar arfordir Ynys Môn, mae’r gallu ganddo i gynhyrchu digon o bŵer ar gyfer hyd at 180,000 o gartrefi. Ond mae hyn yn fwy na chynhyrchu ynni glân - mae'n ymwneud ag arloesi, buddsoddi a gosod gogledd Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant fydd yn chwarae rhan hanfodol yn y broses fyd-eang o drawsnewid ynni.

Bydd ein buddsoddiad drwy'r Cynllun Twf ym mhrosiect Cydnerth yn galluogi i brosiect Morlais ehangu drwy fuddsoddi mewn isadeiledd i wella ei allu cynhyrchu - gan ddarparu mwy o gyfleoedd i ddatblygwyr technoleg o bob rhan o Ewrop brofi a defnyddio eu datrysiadau. Dyma enghraifft wych o ogledd Cymru yn cymryd rôl ragweithiol wrth lunio dyfodol ynni ac arloesedd. 

Rydym hefyd yn gweld cynnydd mewn arloesi digidol, gyda Phrifysgol Bangor yn arwain y ffordd drwy ei Chanolfan Prosesu Signalau Digidol. Mae'r galw am brosesu data yn tyfu'n gyflym, ac mae'r Gogledd yn datblygu i fod yn ganolfan ragoriaeth yn y maes hwn. Ar yr un pryd, mae Parc Gwyddoniaeth Menai - M-SParc - ar Ynys Môn ar fin dyblu ei ôl-troed, mewn ymateb i'r galw cynyddol am ofod o ansawdd uchel i fusnesau arloesol.

Mae economi ffyniannus yn gofyn am ecosystem gref lle mae cyflogwyr mawr, busnesau newydd a busnesau bach a chanolig i gyd yn chwarae eu rhan. Mae canolfannau arloesi fel M-SParc yn darparu lle ar gyfer datblygu syniadau, ac mae busnesau newydd yn rhan hanfodol o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer busnesau mwy. Wrth i ddatblygiadau technolegol symud mor gyflym mae'n anodd rhagweld pa ddiwydiannau fydd yn sbarduno twf yn y dyfodol, ond trwy greu'r amodau cywir i fusnesau o bob maint lwyddo, gallwn sicrhau bod gogledd Cymru yn parhau i fod yn economi gystadleuol a deinamig.

Yn y pen draw, y nod yw adeiladu economi hunangynhaliol lle mae busnesau'n llwyddo nid oherwydd grantiau'r llywodraeth ond oherwydd eu bod yn gystadleuol yn fyd-eang. Wrth i ni symud i ffwrdd o ddibynnu ar gyllid Ewropeaidd ac archwilio strwythurau cyllido newydd o San Steffan, rhaid i ni ganolbwyntio ar feithrin economi sy'n cynhyrchu ei ffyniant ei hun. Mae hyn yn golygu caniatáu i'r llywodraeth dargedu cyllid tuag at wasanaethau cyhoeddus hanfodol fel addysg a gofal iechyd, tra bod y gymuned fusnes yn gyrru datblygiad economaidd.

Yma yn y Gogledd mae gennym bopeth sydd ei angen i ffynnu - busnesau ac arloesedd o'r radd flaenaf, ynghyd â chyfoeth o adnoddau naturiol. Dyma'r amser i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau, gan sicrhau bod ein rhanbarth yn cael ei gydnabod fel arweinydd mewn twf cynaliadwy a gwytnwch economaidd.