Prosiect:

Canolfan Prosesu Signalau Digidol

Trosolwg:

Mae technoleg Prosesu Signalau Digidol (DSP) yn rhan hanfodol o'r economi ddigidol ac mae'n rheoli sut mae gwybodaeth ddigidol yn cael ei phrosesu'n effeithlon ac yn ddibynadwy rhwng dyfeisiau a phobl. 

Mae Prifysgol Bangor wedi sefydlu galluoedd blaenllaw wrth ddatblygu technolegau DSP newydd, cefnogi cydweithredu yn y diwydiant, creu swyddi a chyfleoedd o fewn cadwyni cyflenwi'r rhanbarth. Mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn cydnabod bod y prosiect hwn yn hanfodol i ddatblygiad a dyfodol Gogledd Cymru a'r economi ehangach.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Prifysgol Bangor i ddatblygu'r prosiect hwn.

Prif Noddwr:

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £10 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 35 o swyddi newydd  i'r  rhanbarth

Arloesedd

Annog arloesedd drwy weithio ar 70 o brosiectau erbyn 2031

Targedau Buddsoddi

£3m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£0m

Sector Breifat

£3m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau

  • Yr Athro Morag McDonald Deon y Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg, Prifysgol Bangor
  • Bryn Jones Uwch Swyddog Strategol Arloesi a Partneriaethau, Prifysgol Bangor
  • Soo Vinnicombe Swyddog Datblygu Prosiectau Strategol, Prifysgol Bangor
  • Stuart Whitfield Rheolwr Rhaglen Ddigidol