Prosiect:

Cydnerth (Morlais)

Trosolwg:

Bydd buddsoddiad y Cynllun Twf yn ariannu ehangiad o prosiect Morlais o’r enw Cydnerth, a fydd yn datblygu cysylltiad grid ychwanegol i alluogi datblygwyr ynni llanw i leoli mwy o dyrbinau ym mharth Morlais. Bydd yr ehangiad arfaethedig yn creu swyddi newydd, cyfleoedd i'r gadwyn gyflenwi a chapasiti ychwanegol i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

Mae Morlais wedi'i leoli oddi ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Cybi, Ynys Môn a bydd yn cynhyrchu trydan gan ddefnyddio ynni llanw. Pan fydd yr isadeiledd yn ei le, bydd y cynllun yn defnyddio'r adnodd llanw sydd gyda'r cryfaf yn Ewrop.

Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Menter Môn i ddatblygu'r prosiect hwn.

Prif Noddwr:

 

Amcanion

GVA Ychwanegol

Cynhyrchu hyd at £30 miliwn o GVA ychwanegol net

Creu Swyddi

Creu hyd at 100 o swyddi newydd i'r rhanbarth

Creu Ynni Carbon Isel

Creu o leiaf 100MW o drydan o ynni llif llanw

Targedau Buddsoddi

£9m

Cynllun Twf

£0m

Sector Cyhoeddus Arall

£0m

Sector Breifat

£9m

Cyfanswm Buddsoddiad

Pa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?

Cam01.
Pennu cyd-destun y Prosiect:

Cam cynllunio'r cynnig gwariant. Asesu cyd-destun strategol y prosiect a dangos sut mae'n darparu synergedd â phrosiectau eraill yn y portffolio.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam02.
Paratoi'r Achos Amlinellol Strategol:

Cam cwmpasu'r prosiect. Cyflwyno’r achos dros newid a nodi'r ffordd orau ymlaen.

Check icon progress icon Cwblhau
Cam03.
Paratoi'r Achos Busnes Amlinellol:

Y cam cynllunio ar gyfer y prosiect. Nodi'r opsiynau sy'n cynnig gwerth am arian, cadarnhau fforddiadwyedd y prosiect a phenderfynu ar y trefniadau ar gyfer cyflawni'r prosiect yn llwyddiannus.

Check icon progress icon Ar y Gweill
Cam04.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Amlinellol:

Cyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam caffael y prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam05.
Paratoi'r Achos Busnes Llawn:

Cam caffael y prosiect. Cofnodi canfyddiadau'r caffaeliad, nodi'r opsiwn sy'n darparu'r gwerth cyhoeddus gorau a chadarnhau'r trefniadau rheoli ar gyfer cyflwyno, monitro a gwerthuso'r prosiect.

Check icon progress icon
Cam06.
Cymeradwyo'r Achos Busnes Llawn:

Cyflwyno’r Achos Busnes Llawn i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i'w gymeradwyo. Pan gymeradwyir gall cam gweithredu'r prosiect ddechrau.

Check icon progress icon
Cam07.
Gweithredru a monitro’r Prosiect:

Cam gweithredu'r prosiect. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn fel pwynt cyfeirio at gyflawni'r prosiect a monitro cynnydd.

Check icon progress icon
Cam08.
Gwerthuso'r Prosiect:

Cam gweithredu ar ôl prosiect. Asesu pa mor dda y cyflawnwyd y prosiect a'r gwersi a ddysgwyd. Defnyddir yr Achos Busnes Llawn i bennu i ba raddau y cafodd y buddion disgwyliedig eu cyflawni a'u gwireddu.

Check icon progress icon

Prif Aelodau