-
Denise Creed, Swyddog Prosiect Cyflenwi Ynni, Uchelgais Gogledd Cymru
Pan fydd sefydliad yng Ngogledd Cymru yn penderfynu buddsoddi mewn paneli solar, system storio ynni batris neu adeilad mwy ynni-effeithlon, rwyf am iddo allu dod o hyd i'r arbenigedd sydd ar gael yn agos at adref. Mae hynny'n swnio'n syml. Yn ymarferol, gall fod yn rhyfeddol o anodd.
Rwyf wedi profi hyn fy hun wrth chwilio am osodwr lleol. Mae canlyniadau chwilio yn aml yn ffafrio cwmnïau mwy sydd â'r adnoddau i gynnal presenoldeb cryf ar-lein. Gall busnesau llai ddibynnu ar gyfryngau cymdeithasol neu ar lafar, ac mae cadw eu gwybodaeth yn gyfredol yn gorfod cystadlu â gofynion cyflawni'r gwaith.
Gall hynny adael bwlch rhwng y sgiliau sydd gennym yn y rhanbarth a'r sefydliadau sy'n chwilio amdanynt. Wrth i fwy o brosiectau ynni glân gael eu cyflwyno, mae angen i ni wneud y cysylltiadau hynny'n haws.
Yn Uchelgais Gogledd Cymru, mae ein Cronfa Ynni Glân Gogledd Cymru, gwerth £25 miliwn, yn cefnogi cyfleoedd ar draws y sectorau preifat a gwirfoddol. Mae ei nod yn cynnwys lleihau allyriadau carbon a chostau ynni, gan hefyd annog buddsoddiad a chefnogi swyddi. Rydym eisoes yn gweld tua 100 o ymholiadau a mynegiadau o ddiddordeb, gydag ynni solar, system storio ynni batris a gwefru cerbydau trydan ymhlith y technolegau sy'n cael eu hystyried.
I mi, mae yna gyfrifoldeb pwysig gyda'r diddordeb hwnnw. Mae angen i ni helpu sefydliadau i ddatblygu eu prosiectau gan roi cyfle teg i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru i gael eu gweld a'u hystyried ar gyfer y gwaith.
Dyma pam rydym yn sefydlu Cronfa Ddata Cyflenwyr Ynni Adnewyddadwy. Bydd yn darparu cyfeiriadur ar-lein hygyrch i'r cyhoedd o fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru, gan helpu sefydliadau i nodi cyflenwyr sydd â'r arbenigedd sydd ei angen ar eu prosiectau. Bydd defnyddwyr yn gallu cyfyngu eu chwiliad yn ôl arbenigedd a sir, gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i fusnesau perthnasol yn lleol.
Mae'r cyfle yn ymestyn y tu hwnt i osodwyr ynni adnewyddadwy. Rydym eisiau clywed gan fusnesau sy'n gweithio ym maes ynni solar, gwynt a dŵr, ochr yn ochr â systemau storio ynni batri, pympiau gwres a seilwaith gwefru cerbydau trydan. Mae lle hefyd i gontractwyr a darparwyr gwasanaeth y mae eu gwaith yn lleihau'r defnydd o ynni mewn adeiladau, gan gynnwys inswleiddio a gwelliannau eraill i ffabrig adeilad.
Nid oes angen i fusnes fod yn fawr i gyfrannu. Mae gennym ddiddordeb yn yr hyn y gellir ei ddarparu, y gwasanaethau y mae'n eu cynnig a'r achrediadau perthnasol sydd ganddo. Bydd busnesau sy'n bodloni ein gofynion yn gallu cyflwyno'r wybodaeth honno mewn cyfeiriadur sydd wedi'i gynllunio i helpu darpar gwsmeriaid i ddod o hyd iddynt.
Nid yw'r gronfa ddata yn fframwaith caffael nac yn gynllun achredu. Nid yw cynhwysiant yn gwarantu gwaith, penodiad na chymeradwyaeth gan Uchelgais Gogledd Cymru. Mae'n rhoi mwy o welededd i gyflenwyr ac yn helpu sefydliadau i adnabod busnesau y byddent efallai yn dymuno cysylltu â hwy.
Rydym yn gweithio gyda GwerthwchiGymru i annog busnesau perthnasol i ymuno. Mae dau weminar yn cael eu cynllunio, ochr yn ochr â digwyddiad cwrdd â'r prynwr ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Rydym hefyd eisiau helpu busnesau llai i ddod yn fwy cyfforddus yn defnyddio llwyfannau fel GwerthwchiGymru, fel bod dod o hyd i gyfleoedd ac ymateb iddynt yn teimlo'n fwy hylaw.
Mae pwrpas economaidd ehangach y tu ôl i'r gwaith hwn. Mae helpu cyflenwyr lleol i gael mynediad at brosiectau yn rhoi cyfleoedd iddynt dyfu a gallant helpu i gadw mwy o werth buddsoddiad ynni glân yng Ngogledd Cymru. I'r sefydliadau sy'n buddsoddi, mae mynediad at arbenigedd addas yn rhan ymarferol o droi syniad yn brosiect wedi'i gyflawni.
Mae busnesau eisoes yn ymuno â'r gronfa ddata. Fy anogaeth i eraill yw cymryd rhan yn awr, fel y gall eu harbenigedd fod yn weladwy wrth i brosiectau ddatblygu.