Fe wnaeth adolygiad o brosiectau Cynllun Twf Gogledd Cymru gan Uchelgais Gogledd Cymru ryddhau cyllid cychwynnol o £51m. Dilynwyd hyn gan broses mynegi diddordeb lle cyflwynodd ein partneriaid eu cynigion sector cyhoeddus a phreifat.

Mae'r prosiectau a oedd yn gryf o ran effaith, gallu i gyflawni, ac yn cyd-fynd â nodau'r Cynllun Twf, wedi'u rhoi ar Restr Wrth Gefn. Maen nhw nawr yn cael y cyfle i fidio am ran o gyllid y Cynllun Twf sydd heb ei ddyrannu yn y dyfodol.

Nod hyn yw cyflymu twf rhanbarthol drwy gyflawni prosiectau economaidd cynaliadwy ledled y Gogledd, a fydd yn creu swyddi ac yn bodloni ymrwymiadau amgylcheddol. 

Mae'r prosiectau sydd ar y rhestr wrth gefn isod:

Adventure Parc Snowdonia

Darparu profiad newydd i ymwelwyr o arwyddocâd cenedlaethol ar safle hen gyfleuster Adventure Parc Snowdonia.

Ysgol Fusnes Albert Gubay

Adeiladu Ysgol Fusnes Albert Gubay ym Mhrifysgol Bangor.

Hwb Iechyd Bangor

Datblygu Hwb Iechyd a Lles integredig mewn hen ganolfan siopa wag yng nghanol dinas Bangor.

Porth Busnes

Pontio rhwng Prifysgol Wrecsam a diwydiant lleol, gan feithrin cydweithio, arloesi, creu swyddi a thwf economaidd cynhwysol. 

Cronfa Arloesi a Thwf

Cefnogi busnesau'r Gogledd ym maes bwyd-amaeth, twristiaeth, a gweithgynhyrchu gwerth uchel i hybu arloesedd, mabwysiadu technoleg newydd, a thyfu cystadleurwydd rhanbarthol.

Stiwdios Kinmel

Prosiect i gefnogi'r diwydiant ffilm a theledu yng Ngogledd Cymru. 

NEW-H2

Bydd y prosiect hwn yn helpu i roi hwb i'r economi hydrogen yn y Gogledd drwy gefnogi a darparu hwb hydrogen i gynnwys cyflenwi a defnyddio hydrogen.

Safleoedd ac Adeiladau Gogledd Ynys Môn

Darparu 2,200 metr sgwâr o ofod busnes yng ngogledd Ynys Môn gan greu o leiaf 59 o swyddi a throsoli twf y Porthladd Rhydd ac ynni carbon isel.

Parc Bryn Cegin - Gwedd 2

Datblygiad ychwanegol o 20,000 sq ft o unedau cyflogaeth ym Mharc Bryn Cegin. 

Safleoedd Porth Peboc

Datgloi 6,750 metr sgwâr o ofod busnes yn Llangefni, gan greu o leiaf 186 o swyddi a gwneud y mwyaf o fanteision Porthladd Rhydd Ynys Môn.

Porthladd Mostyn

Uwchraddio'r angorfa ac adfywio'r hen safle diwydiannol. 

Prosiect Prince

Adeiladu ffatri gwlân mwynol 110kt gyda ffwrnais arc tanddwr (SAF), yn bennaf i wasanaethu marchnadoedd y DU ac Iwerddon.

Cronfa Eiddo

Grant Datblygu Eiddo Masnachol i gau bylchau hyfywedd ar gyfer datblygwyr eiddo diwydiannol a swyddfeydd o'r sector preifat, gyda chyllid hefyd ar gael ar gyfer datblygiadau tebyg yn y sector cyhoeddus ar sail Cytundeb Cyd-fenter.

Quarry Battery

Cynllun hybrid BESS/Hydro Storfa Bwmpio gwerth £300m yng ngogledd Cymru. 

Datblygiad Gwesty Queen's Market

Darparu gwesty canolig o ran maint a graddfa - rhan allweddol o uwchgynllun ehangach sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer yr ardal ar hyn o bryd.

Society 5.0 - Prosiect Gweithgynhyrchu a Gallu

Gwella'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter a galluogi i'r diwydiant gael mynediad at ragor o adnoddau peirianneg hynod-fanwl o'r radd flaenaf.

⁠Parc Busnes Llanelwy - Llety Symud Ymlaen ⁠

Datblygu unedau diwydiannol uwch-dechnoleg ym Mharc Busnes Llanelwy. 

Trawsfynydd

Cynllun a fydd yn cynnwys adeilad i gynnwys mannau ar gyfer swyddfeydd, labordai (union fanyleb i'w chadarnhau) a chyfleusterau ategol (lle cyfarfod, caffi/ffreutur ac ati), i gefnogi'r diwydiant niwclear ac ynni carbon isel ynghyd â'r gymuned wyddonol, wedi'i leoli ar Safle Trawsfynydd. 

Venue Cymru

Prosiect a fydd yn ehangu cyfleusterau Venue Cymru, yn rhoi hwb i swyddi, yn torri carbon, ac yn denu sioeau a chynadleddau mawr a buddsoddiad diwylliannol.

 

Porth Wrecsam

Mynd i'r afael â hyfywedd a chefnogi cyflawni prosiect Porth Wrecsam sy'n esblygu.