Porth Wrecsam
Mae’r prosiect hwn yn rhan o gynllun ehangach Porth Wrecsam sy’n anelu i ddarparu fframwaith o gynigion i annog adfywiad trawsnewidiol aml-ddefnydd o’r ardal. Bydd y prosiect yn darparu tua 7,000sqm o ofod swyddfa newydd ym Mhorth Wrecsam. Bydd yn anelu i ddarparu datblygiad cynaliadwy ac ardal adfywio bywiog, a chreu canolbwynt i gefnogi buddsoddiad busnes a hwb trafnidiaeth aml foddol. Bydd y cynllun yn ei gyfanrwydd yn cysylltu prosiectau teithio lleol, creu lleoedd a thir cyhoeddus i greu amgylchedd cydlynol a bywiog.
Bydd y prosiect yn denu swyddi newydd a buddsoddiad sylweddol i Ogledd Cymru.
Mae Uchelgais Gogledd Cymru yn gweithio gyda'r prif noddwr, Cyngor Bwrdeistrefol Wrecsam i ddatblygu'r prosiect hwn.
Prif Noddwr:
Targedau Buddsoddi
£4.8m
Cynllun Twf£0m
Sector Cyhoeddus Arall£9.6m
Sector Breifat£14.4m
Cyfanswm BuddsoddiadPa gam mae'r prosiect wedi cyrraedd?
Prif Aelodau
-
Alistair Aldridge Rheolwr Prosiect Porth Wrecsam, Cyngor Bwrdeistrefol Wrecsam
-
David Mathews Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo
-
Leanne Taylor Rheolwr Prosiect Adfywio, Cyngor Bwrdeistrefol Wrecsam